Neidio Dros Jade

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

  • Darllenwch y llyfr stori ‘Y Parti ar y Traeth’ a chyfeiriwch at y gêm yn y stori
  • Tynnwch linell â sialc o amgylch y plentyn talaf, gan labelu rhai rhannau o’i gorff
  • Gofynnwch i’r plant amcangyfrif y pellter y byddant yn ei neidio mewn un naid, dwy naid, ac ati
  • Mesurwch gyflawniadau’r plant gan ddefnyddio mesurau safonol ac ansafonol

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod yr arwyneb neidio’n gallu esmwytho’r glanio, e.e. trwy ddefnyddio matiau gymnasteg neu borfa
  • bod y plant yn plygu eu pengliniau wrth lanio gan lanio fel pe baent yn gwneud ‘naid broga’

Cyfleoedd i

  • neidio’n hyderus
  • amcangyfrif, rhagweld a mesur
  • adnabod ac enwi rhannau’r corff

Cwestiynau

  • Pa mor bell gallwch chi neidio?
  • Pa mor bell gallwch chi neidio mewn camau bach iawn?
  • Sawl naid byddai eu hangen arnoch i neidio dros ben siâp y plentyn talaf?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn neidio’n hyderus?
  • Yn amcangyfrif, yn rhagweld ac yn mesur?
  • Yn adnabod ac yn enwi rhannau’r corff?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    • Defnyddiwch fygydau i’r plant eu gwisgo wrth neidio
    • Helpwch y plentyn i ganfod sawl naid y gallai fod arno’u hangen i neidio deirgwaith dros ben siâp y plentyn talaf. Trafodwch pam y gallai hynny gymryd mwy o neidiau na’r disgwyl
    • Heriwch blentyn i neidio dros ben cyfanswm taldra pawb
    • Gofynnwch i’r plant chwarae gêm mewn parau. Bydd un plentyn yn taflu bag ffa neu wrthrych ar y llawr. Rhaid i’r plentyn arall amcangyfrif sawl naid y bydd arno’u hangen i gyrraedd y marciwr hwnnw
  • Weithiau

    • Gadewch i’r plentyn fesur ei naid yn gyntaf, cyn cymharu’r naid â siâp y plentyn talaf er mwyn amcangyfrif yn fwy cywir
    • Gofynnwch i’r plentyn ymarfer neidio gan ddefnyddio’r Cardiau Sgiliau Technegol
    • Trafodwch enwau rhannau’r corff a labelwch nhw