Neidio Dros Jade
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Beth am chwarae?
- Dyluniwch gylched neidio, sy’n cynnwys gweithgareddau megis hopsgots; bownsio’n gyflym; neidio pellter; gwneud cic siswrn dros rwystrau isel; bowndio (llamu pwerus) dros bellter byr; hercian; gwneud herc, cam a naid (o un droed i’r un droed, o un droed i’r droed arall, o un droed i’r ddwy droed – naid driphlyg); neidio’n uchel; neidio’n fertigol; neidio gan berfformio gwahanol siapiau yn yr awyr; neidiau jac sbonc ac ati
- Bydd angen i’r plant weithio mewn parau, lle bydd un plentyn yn gweithio a’r llall yn cyfrif/mesur/cofnodi’r sgôr. Bydd pedwar pâr yn gweithio ym mhob ‘gardd’, yn dibynnu ar y math o weithgaredd a’r lle sydd ar gael
- Bydd y plant yn sgorio pwyntiau yn unigol, fel pâr neu fel tîm
- Bydd y plant yn gweithio yn erbyn y cloc neu’n cael nifer benodol o gynigion
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
- bod yr arwyneb neidio’n gallu esmwytho’r glanio, e.e. defnyddio matiau gymnasteg neu borfa, neu fel arall dylai’r plant osgoi neidio gormod ar arwynebau caled
- bod y plant yn plygu eu pengliniau wrth lanio
Cyfleoedd i
- ddatblygu amrywiaeth o dechnegau neidio
- gwella rheolaeth, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
- datblygu cryfder, cyflymder a grym
- mesur, cyfrif, cofnodi a chyfrifo’n gywir
- cydweithio ag eraill a pharchu confensiynau chwarae teg, cydraddoldeb ac ymddygiad priodol
- adnabod yr hyn sy’n gwneud sgìl, syniad neu weithred yn llwyddiannus, a mynegi barn syml am eu perfformiad eu hunain a pherfformiad plant eraill, a defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio sut i wella
Cwestiynau
- Sut roeddech chi’n teimlo ar ôl cwblhau’r gylched?
- Pa ran o’ch corff sydd wedi gweithio galetaf?
- Pa naid oedd yr un anoddaf?
– Beth fyddwch chi’n ei ymarfer i’ch helpu i wneud y gweithgaredd hwn yn well? - Sut gwnaethoch chi sicrhau eich bod yn cyfrif/mesur/cofnodi/cyfrifo yn gywir?
– Pam mae hynny’n bwysig? - Pa naid y byddwch chi’n gosod targed ar ei chyfer y tro nesaf?
– Beth yw’r targed hwnnw? - Gyda pha weithgareddau y bydd y naid hon/y neidiau hyn yn helpu?
- Sut gallech chi helpu rhywun i wella ei sgiliau neidio?
- Sut gallwch chi gynnwys rhai o’r neidiau creadigol rydych chi wedi’u perfformio eisoes?
Newidiadau i’r gweithgaredd
Newidiwch y canlynol:
-
Lle
- maint y lle
-
Tasg
- y sgìl/gweithred y bydd plant sy’n defnyddio cadair olwyn yn ei hymarfer, e.e. defnyddio’r breichiau i wthio’r gadair yn hytrach na neidio
- y dasg – trwy gario gwrthrych neu gwblhau hopsgots mewn patrwm penodol (odrifau, eilrifau, gan ddilyn tabl lluosi ac ati)
- y rheolau i greu eu patrwm neidio eu hunain i’w ddysgu i rywun arall, perfformio patrymau neidio i gerddoriaeth
- y targed y mae’r tîm yn anelu ato, e.e. torri record pellter Prydain, Cymru, y sir, yr ysgol neu’r Byd ar gyfer campau neidio penodol ac ati!!! Anogwch y plant i ymchwilio i athletwyr a phob record y maent yn eu dal
-
Offer
- y rhwystrau i neidio drostynt – eu gwneud yn uwch, yn is, yn fwy llydan ac ati
-
Pobl
- rolau – mabwysiadu rolau gwahanol: hyfforddwr, sgoriwr ac ati