O Smotyn i Smotyn

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:

  • Symud o un smotyn i smotyn arall
  • Symud o un man i’r llall gan ddefnyddio’r smotiau fel pe baent yn gerrig camu mewn afon
  • Mynd â gwrthrychau gyda nhw, e.e. picnic a phethau ar gyfer y traeth
  • Symud o un smotyn i’r llall gan ddilyn patrwm y maen nhw neu blentyn arall wedi’i gynllunio, e.e. coch, glas, gwyrdd, coch, glas, gwyrdd, neu gan ddefnyddio smotiau â rhifau arnynt, e.e. 1, 2, 3, 4, …1O, ac ati
  • Symud o un smotyn i’r llall fel llwynogod, fel bod eu dwylo neu’u traed yn cyffwrdd â’r smotyn mewn gweithred ddringo lorweddol: llaw, llaw, troed, troed, ac ati
  • Amcangyfrif faint o smotiau sydd eu hangen arnynt i symud dros bellterau byr

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn gweithio mewn ‘gerddi’

Cyfleoedd i

  • ddatblygu sgiliau cydsymud a rheolaeth gynyddol
  • sefyll a rhedeg ar flaenau eu traed, neidio tuag yn ôl, hercian tuag ymlaen
  • gwrando ar gyfarwyddiadau ac ymateb yn barod iddynt

Cwestiynau

  • Pa mor bell oddi wrth ei gilydd y gallwch chi osod y marcwyr a chadw eich cydbwysedd?
  • Pa mor agos at ei gilydd y mae’n rhaid i’r smotiau fod pan fyddwch yn symud fel llwynogod?
  • Ym mha ffyrdd eraill y gallwch chi deithio o smotyn i smotyn?
  • P’un sydd hawsaf – cario un bag neu ddau fag? Pam, yn eich barn chi?
  • Yn eich barn chi, faint o smotiau fydd eu hangen arnoch i deithio o’r lle hwn i ben draw’r maes chwarae?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn datblygu sgiliau cydsymud a rheolaeth gynyddol?
  • Yn sefyll ac yn rhedeg ar flaenau ei draed, yn neidio tuag yn ôl, yn hercian tuag ymlaen?
  • Yn gwrando ar gyfarwyddiadau ac yn ymateb yn barod iddynt?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • osod y smotiau’n fwyfwy pell oddi wrth eigilydd yn raddol
    • dilyn llwybr penodol – siapiau 2D syml
    • dilyn patrymau mwy cymhleth
    • archwilio cario gwrthrychau trymach, mwy lletchwith
    • amcangyfrif faint o smotiau y byddai arno’u hangen mewn amgylcheddau gwahanol
  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • ymarfer gweithrediadau gan gyfeirio at y Cardiau Sgiliau Technegol
    • ymarfer gweithrediadau o fat i fat, neu o ardal fwy i ardal fwy
    • cadw’r pellter rhwng y smotiau’n fyr iawn i ddechrau
    • trafod beth mae’n bwriadu ei wneud yn gyntaf, yna cwblhau’r dasg drwy gopïo/dilyn plentyn mwy medrus neu ymarferwr
    • gosod y smotiau yn y mannau lle’r hoffai eu cael
    • cario gwrthrychau ysgafn iawn i ddechrau