O Smotyn i Smotyn
Wrth i ni ddod yn fwy medrus
Gweithgaredd
Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:
- Creu eu llwybr cerrig camu eu hunain er mwyn croesi pellter penodol, gan ddefnyddio cyn lleied o gerrig camu agy gallant. Cerdded ar hyd y llwybr, neidio neu symud fel llwynogod
- Creu llwybr cerrig camu ar gyfer plentyn arall neu grŵp, y mae modd ei gwblhau ond sy’n heriol
- Creu llwybr cerrig camu i fyny ffrâm ddringo/ardal ar lethr/wal/cwrs rhwystrau/wal ddringo/craig/twmpath naturiol. Dylid cyfeirio at y Cerdyn Sgiliau Technegol ar gyfer Dringo
- Creu llwybr cerrig camu dros gyfres o rwystrau, i’w gwblhau mewn cyn lleiedo amser ag sy’n bosibl
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod amrywiaeth o rwystrau ar gael a fydd yn darparu ar gyfer pob gallu
- bod y plant yn gweithio mewn ‘gerddi’
- bod pawb yn dilyn y protocolau a argymhellir wrth weithio oddi ar y safle neu â waliau dringo
Cyfleoedd i
- dyfu’n gryfach ac yn fwy ystwyth
- symud â rheolaeth gorfforol a hyder cynyddol
- gweithio’n ddiogel gydag eraill
- cydweithio i ddatrys problemau wrth weithio gydag eraill
Cwestiynau
- Pa ran o’r llwybr oedd anoddaf, a pham?
- Sut penderfynoch chi ble i roi’r cerrig camu pan oeddech chi’n cynllunio llwybr ar gyfer grŵp arall?
- Pam y mae’n bwysig cynllunio yn y gweithgaredd hwn?
- Sut gallwch chi sicrhau na fyddwch chi’n mynd yn sownd yn rhywle?
- Beth mae’n rhaid i’r person sydd yn y blaen ei ddweud neu’i wneud i helpu’r rhai eraill sy’n ei ddilyn?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn tyfu’n gryfach ac yn fwy ystwyth?
- Yn symud â rheolaeth gorfforol a hyder cynyddol?
- Yn gweithio’n ddiogel gydag eraill?
- Yn cydweithio i ddatrys problemau wrth weithio gydag eraill?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- gynyddu’r pellter rhwng y marcwyr yn raddol
- gweithio fel tîm gyda phlant eraill mwy medrus i gwblhau’r llwybr gan gadw mewn cysylltiad â’i gilydd
- gweithio gyda phartner i ddatrys problemau mwy cymhleth, e.e. senario – achub eryr sydd wedi’i anafu
- rhoi cynnig ar ddilyn/dringo llwybrau mwy fertigol
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- drafod beth mae am ei wneud a pha smotyn y mae am symud iddo nesaf; dilyn plentyn arall mwy medrus neu ymarferwr sy’n gwneud y gweithgareddau hyn
- dewis ble’r hoffai osod y marcwyr
- cynllunio ei lwybr yn gyntaf, ac yna gweithio gyda phlentyn mwy medrus neu ymarferwr sy’n rhoi cyfarwyddiadau, ac ati