Smotiau Rhydd

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

  • Gofynnwch i’r plant osod nifer o smotiau/marcwyr mewn lle penodol
  • Bydd un plentyn (y chwiliwr smotiau) yn symud o gwmpas y lle chwarae gan gadw allan o ‘swigen’ pawb arall. Bydd y lleill (ceidwaid y smotiau) yn symud ar smotyn, o gwmpas smotyn neu oddi wrth smotyn ac yn ôl ato, gyda neu heb ddarn o offer. Cyfeiriwch at y Cardiau Gweithgareddau eraill ar Smotiau. Anogwch bob un o’r plant i symud mewn amrywiaeth o ffyrdd
  • Pan fydd un o geidwaid y smotiau’n rhoi signal, bydd pob un o’r plant yn stopio. Bydd ceidwaid y smotiau’n symud yn gyflym at smotyn, ond rhaid i’r chwiliwr smotiau aros. Pan fydd pob un o’r ceidwaid ar smotyn, dylai’r chwiliwr symud at y smotyn rhydd
  • Pan roddir gorchymyn arall, bydd y plant yn symud oddi ar eu smotyn ac yn symud o amgylch y lle nes eu bod yn clywed gorchymyn i stopio unwaith eto

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • na ellir llithro ar y marcwyr, bod digon o bellter rhyngddynt a’u bod nhw’n ddigon pell oddi wrth waliau/offer
  • bod y plant yn gweithio mewn grwpiau bach, a bod pob grŵp yn gweithio yn ei ‘ardd’ ei hun
  • bod y plant yn osgoi ei gilydd trwy gadw allan o ‘swigod’ plant eraill
  • bod y plant yn cytuno ar signalau ac yn cytuno pwy fydd yn rhoi’r signalau
  • bod y plant yn cyfnewid lle’n aml er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael rhoi cynnig ar fod yn chwiliwr smotiau

Cyfleoedd i

  • ddechrau a stopio pan roddir gorchymyn
  • dechrau datblygu ymwybyddiaeth ofodol

Cwestiynau

  • Beth rydych chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n stopio?
  • Ar beth rydych chi’n edrych pan fyddwch chi’n symud o gwmpas y lle?
  • Sut symudoch chi o gwmpas y lle?
  • Sut rydych chi’n eich stopio eich hun rhag taro yn erbyn plant eraill?
  • Pam mae’n bwysig peidio â tharo yn erbyn rhywun?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn dechrau ac yn stopio pan roddir gorchymyn?
  • Yn dechrau datblygu ymwybyddiaeth ofodol?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    • Gofynnwch i’r plentyn symud cyn gynted ag y gall at y smotyn rhydd
    • Newidiwch y gorchmynion fel bod y plant yn ymateb i wahanol signalau/gorchmynion
    • Cyflwynwch rwystrau eraill i’w goresgyn
  • Weithiau

    • Byddwch yn bartner i’r plentyn i’w helpu i ddod o hyd i’r smotyn rhydd
    • Cyfyngwch ar nifer y plant sy’n chwarae ar unrhyw adeg
    • Sicrhewch bod y plant yn ymarfer dechrau a stopio pan roddir gorchymyn
    • Anogwch y plentyn i gerdded, fel y gall fynd o gwmpas gwrthrychau a phlant eraill yn ddiogel
    • Sicrhewch bod digon o bellter rhwng y smotia