Smotiau Rhydd

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Rhowch wyth plentyn ym mhob gardd. Bydd pedwar ohonynt yn gwisgo bibiau glas a phedwar yn gwisgo bibiau coch
  • Bydd y plant yn cymryd eu tro i fod yn ‘chwiliwr smotiau’
  • Bydd y plant i gyd yn symud o gwmpas yr ardd. Pan roddir gorchymyn/signal/symbyliad, bydd pawb ond y chwiliwr smotiau yn ffurfio parau – un â bib glas ac un â bib coch – ac yn parhau i symud o gwmpas y gwagle, gan adael un plentyn ar ei ben ei hun
  • Rhaid i’r chwiliwr smotiau gyrraedd y plentyn ‘rhydd’ cyn gynted ag sy’n bosibl
  • Gofynnwch i blentyn gwahanol fod yn chwiliwr smotiau ar ôl i un plentyn gael sawl tro
  • Bydd y plant yn penderfynu sut y byddant yn symud o gwmpas, beth y byddant yn ei wneud pan fyddant yn ymuno â’i gilydd mewn parau, a beth y mae’n rhaid i’r chwiliwr smotiau ei wneud i ddal y plentyn ‘rhydd’

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn cytuno ar y signalau/symbyliadau/gorchmynion a phwy fydd yn eu rhoi cyn dechrau
  • bod y plant yn defnyddio eu sgiliau ochrgamu i osgoi taro yn erbyn plant eraill
  • bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n defnyddio cadair olwyn neu fframiau fel y bo’n briodol

Cyfleoedd i

  • ddatblygu ystwythder, sgiliau cydsymud, ymwybyddiaeth ofodol a golwg perifferol
  • dangos gwell rheolaeth a sgiliau cydsymud
  • cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithrediadau eu hunain a dechrau deall y risgiau cysylltiedig
  • dechrau datblygu amrywiaeth cynyddol o syniadau dychmygus

Cwestiynau

  • Sut gwnaethoch chi sicrhau nad oeddech chi’n taro yn erbyn neb arall?
  • Pa mor gyflym roeddech chi wedi gallu cyrraedd y plentyn ‘rhydd’?
  • Sut gallech chi wella’r modd symudoch chi at y plentyn ‘rhydd’?
  • Pa sgiliau y byddwch chi’n eu hymarfer er mwyn gallu gwneud y gweithgaredd hwn yn well?
  • Sut gallwch chi ei gwneud hi’n anos i’r chwiliwr smotiau?
  • Pa sgiliau eraill gallech chi eu defnyddio yn y gweithgaredd hwn?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Newidiwch y canlynol:

  • Lle

    • maint y lle – bydd gwneud y lle yn fwy yn gofyn am fwy o stamina a chyflymder, ond o’i wneud yn llai bydd angen mwy o ochrgamu a gwell ymwybyddiaeth ofodol
  • Tasg

    • y gweithgaredd cyn y gorchymyn/signal/symbyliad, e.e. defnyddio sgiliau pêl-droed neu sgiliau tennis ac ati. Gallai’r chwiliwr smotiau fod yn oddefol neu’n weithredol yn gwneud rhywbeth arall, e.e. jyglo, neidio dros linell ac ati
    • y gweithgaredd ar ôl y gorchymyn/signal/symbyliad, e.e. sgipio, camu i’r ochr
    • y gorchymyn/signal/symbyliad – ei gymhlethu
    • y modd y mae’r chwiliwr smotiau’n cyrraedd y plentyn ‘rhydd’, e.e. trwy ddilyn llwybr penodol neu gyfres o smotiau lliw ac ati
  • Offer

    • yr offer sydd gan bawb, e.e. pawb â’r un offer, rhai ag offer gwahanol, yn ogystal â chyrraedd y plentyn ‘rhydd’ cyn gynted ag sy’n bosibl, rhaid i’r chwiliwr smotiau gasglu’r darn priodol o offer hefyd
    • y modd y caiff cyfarpar ac offer eu defnyddio fel rhwystrau sydd naill ai’n cynrychioli ardal ‘ddiogel’ neu ardal ‘waharddedig’
  • Pobl

    • y modd y mae plant eraill yn perfformio er mwyn darganfod y ‘plentyn gwahanol’ yn hytrach na’r plentyn ‘rhydd’. Bydd angen i’r chwiliwr smotiau adnabod y gwahaniaeth a darganfod yn gyflym pa blentyn sy’n gwneud rhywbeth gwahanol i’r gweddill a mynd at y plentyn hwnnw cyn gynted ag sy’n bosibl, e.e. os yw’r plentyn ‘rhydd’ yn sgipio, bydd y plant eraill i gyd yn camu i’r ochr. Gellir cynnal y gweithgaredd hwn yn erbyn y cloc