Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
- Bydd un plentyn (y batiwr) yn cael bat o’i ddewis ei hun a bag ffa/tegan/pêl, a bydd yn sefyll ar un o’r smotiau
- Bydd y plentyn hwn yn gwthio’r bag ffa/tegan/pêl ar hyd y llawr fel ei fod yn symud i le gwag, ac yna bydd yn rhedeg i’r smotyn arall
- Bydd y plentyn heb y bat (y maeswr) yn rhedeg i gasglu’r bag ffa ac yn mynd ag ef yn ôl i’r smotyn batio
- Bydd y batiwr yn cerdded yn ôl at y bag ffa i gael tro arall
- Gofynnwch iddynt gael dau neu dri thro ac yna cyfnewid lle
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn chwarae mewn parau gan gymryd eu tro i fod yn fatiwr
- bod y parau’n chwarae mewn ‘gardd’ â dau farciwr/smotyn sydd tua 2 fetr ar wahân
- bod y plant yn cadw’r bag ffa yn eu ‘gardd’ eu hunain
- bod y plant yn rhoi’r bagiau ffa yn ôl ar y smotyn batio
Cyfleoedd i
- ddefnyddio gwahanol ddarnau o offer yn ddiogel wrth chwarae gyda phobl eraill
- anfon gwrthrych
- dilyn rheolau syml gêm
Cwestiynau
- Pam mae’n bwysig cadw’r bag ffa ar y llawr?
- Pam mae’n bwysig cadw’r bag ffa yn eich ‘gardd’?
- Beth sy’n rhaid i chi ei wneud i gasglu’r bag ffa cyn gynted ag y gallwch chi?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn defnyddio gwahanol ddarnau o offer yn ddiogel wrth chwarae gyda phobl eraill?
- Yn anfon gwrthrych?
- Yn dilyn rheolau syml gêm?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch:
- y plentyn i archwilio gwthio ystod o wrthrychau
- y batiwr i wthio mwy nag un gwrthrych, a gweld sawl gwaith y gall redeg rhwng y ddau smotyn tra bod y plentyn arall yn cael gafael ar y gwrthrychau i gyd
- y maeswr i rolio’r bêl dan ysgwydd er mwyn i’r batiwr ei gwthio neu’i chyfeirio i le gwag
- y plentyn i wthio’r bag ffa at dargedau/goliau
- y maeswr i daflu’r bag ffa i mewn i fasged/ardal gôl sydd oddi ar y llwybr rhedeg. Rhaid i’r batiwr stopio rhedeg pan fydd y bag ffa yn y fasged
- y plant i ddatblygu system sgorio syml
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- archwilio defnyddio ystod o fatiau er mwyn dod o hyd i’r un y mae’n gallu ei ddefnyddio’n fwyaf llwyddiannus
- gwthio/llithro’r bag ffa i le gwag
- trafod pa wrthrychau allai fod hawsaf i’w gwthio/cyfeirio
- gwthio/cyfeirio bag ffa/tegan/pêl â’ch help ch