Tipio a Rhedeg
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant yn ddau dîm o bedwar mewn ‘gardd’ fawr
- Bydd un tîm yn batio a’r llall yn maesu
- Bydd y tîm sy’n batio yn taro’r bêl i mewn i’r ‘ardd’ ac yna’n symud allan o gwmpas côn sydd wedi’i osod tua 5 metr i ffwrdd. Wrth i’r batiwr ddechrau symud, bydd y batwyr eraill sy’n aros pellter diogel i ffwrdd yn ymuno yn y gweithgaredd ac yn dilyn y batiwr o gwmpas y côn ac yn ôl i’r safle batio
- Bydd y maeswyr yn casglu’r bêl ac yn ei phasio’n gyflym o’r naill i’r llall fel bod pob maeswr yn cyffwrdd â’r bêl o leiaf unwaith. Bydd y maeswyr yn sgorio 5 pwynt os gallant ddal/trapio’r bêl yn syth wrth y batiwr
- Bydd y batwyr yn parhau i symud nes i’r maeswyr ddweud wrthynt am aros. Bydd y batwyr yn sgorio un pwynt bob tro y bydd y batiwr diwethaf yn rhedeg heibio i’r côn. Os caiff y bêl ei tharo allan o’r ardd, ni ellir sgorio unrhyw rediadau
- Bydd angen newid y batiwr ar ôl pob ergyd. Ar ôl i bob batiwr gael un ergyd yr un bydd y batwyr yn newid i fod yn faeswyr, a’r maeswyr yn newid i fod yn fatwyr
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
- bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
- bod y plant yn cadw’r bêl yn eu ‘gardd’ eu hunain a bod y batwyr yn anelu i ffwrdd wrth ‘erddi’ eraill
- bod y batwyr yn rhedeg pellter diogel i ffwrdd wrth y maeswyr
Cyfleoedd i
- ddatblygu rheolaeth, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
- datblygu ymwybyddiaeth ofodol
- cydweithio ag eraill a pharchu confensiynau chwarae teg, cydraddoldeb ac ymddygiad priodol
- datblygu sgiliau batio a maesu
- adnabod yr hyn sy’n gwneud sgìl, syniad neu weithred yn llwyddiannus, a mynegi barn syml am eu perfformiad eu hunain a pherfformiad plant eraill, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio sut i wella
Cwestiynau
- Ble yw’r lle gorau i daro’r bêl?
– A oeddech chi’n llwyddo i daro’r bêl yno? - Pa sgiliau y byddwch chi’n eu hymarfer i fod yn fwy llwyddiannus yn y gweithgaredd hwn?
- Sut trefnoch chi’r maeswyr?
- Pwy oedd yn penderfynu i bwy y dylid taflu’r bêl nesaf?
- Pwy oedd yn dweud wrth y batwyr am stopio rhedeg?
- Pa mor dda roeddech chi’n gweithio fel tîm o faeswyr?
- Sut gallech chi wella eich sgiliau maesu?
- Sut gwnaethoch chi sicrhau bod y batwyr yn ddiogel pan oeddent yn rhedeg?
Newidiadau i’r gweithgaredd
Change the:
-
Lle
- lleoliad y safle batio, er mwyn gallu taro’r bêl i mewn i fwy o wagle, e.e. rhoi’r safle batio yng nghanol y cylch
- maint y lle – bydd lle mwy o faint yn ei gwneud yn haws i fatwyr ond yn anos i faeswyr, a bydd lle llai o faint yn ei gwneud yn anos i fatwyr ond yn haws i faeswyr
-
Tasg
- y dull o deithio i sgorio rhediadau
- y dull o roi pêl mewn gwagle, e.e. taflu,cicio, taro â raced dennis ac ati. Cyflwynobowliwr cydweithredol ac yna bowliwrcystadleuol ac ati
- y modd y mae batwyr yn sgoriorhediadau, e.e. yn fwy cymhleth, driblo â’rtraed, driblo â’r dwylo, gwneud ymarferiontraed chwim ac ati
- y modd y mae maeswyr yn pasio’r bêlo’r naill i’r llall, e.e. math arbennig o bas,cicio, taro, trefn, o fannau/pwyntiaupenodol, mewn trefn benodol, rhedegi gyffwrdd â smotyn cyn dychwelyd i ddaly bêl ac ati
-
Offer
- y peli, batiau, racedi ac ati a ddefnyddir
-
Pobl
- nifer y plant sy’n chwarae, e.e. cael un batiwr yn unig a newid y batiwr ar ôl tri thro, cynyddu nifer y maeswyr
- rôl y plant trwy ychwanegu dyfarnwr/sgorwyr os na all y chwaraewyr reoli’r gêm eu hunain
- pwy sy’n rhedeg, e.e. gall plant sy’n methu rhedeg eu hunain gael plentyn i redeg ar eu rhan
- y symbyliadau a roddir – rhoi symbyliadau llafar i blant â nam ar y golwg