Bwa Mawr wrth Blymio o’r Awyr

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Gorweddwch ar eich bol

• Ceisiwch gydbwyso ar eich cluniau a’ch bol gan blygu’ch breichiau a’ch coesau

• Gwasgwch eich cefn a’ch pen-ôl er mwyn creu siâp bwa

• Codwch eich traed tuag at y nenfwd

• Ewch â’ch breichiau o gwmpas ochr eich corff a chydiwch yn eich pigyrnau

• Tynnwch eich pigyrnau’n ysgafn tuag at y nenfwd

• Dylech deimlo eich cluniau’n gwthio i lawr i’r llawr

Cwestiynau

• A allwch chi deimlo eich brest yn codi’n uchel?
• A allwch chi ddisgrifio beth sy’n digwydd i’ch palfeisiau?
• Beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn cydio yn eich pigyrnau?

Cyflyru’r Corff

• Osgo*

• Ystwythder y cefn

• Cryfder y cefn*

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Plymio o’r Awyr
    • Morloi

  • Herio

    • Ceisiwch siglo yn ôl ac ymlaen
    • Pa mor uchel oddi ar y llawr gallwch chi gael eich coesau
    • Perfformiwch y weithred Bwa Mawr wrth Blymio o’r Awyr ar ddarn o gyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Bwa Mawr wrth Blymio o’r Awyr