Cyfarwyddiadau
• Gweithiwch mewn grwpiau o bump
• Bydd un dysgwr yn ceisio sefyll ar ei ddwylo. Bydd dau ddysgwr y naill ochr i chi’n cynnal eich ysgwyddau. Bydd y ddau ddysgwr arall yn codi coes yr un
• Dechreuwch ag ystum Ymgynnal Blaen â’ch dwylo’n fflat ar y llawr, eich bysedd
wedi’u lledu a’ch bysedd bawd tua 3cm ar wahân a’ch coesau mewn safle stradl
• Edrychwch ar eich dwylo, cadwch eich breichiau’n syth, peidiwch â symud eich dwylo, gafaelwch â’ch bysedd a cheisiwch gadw ysgwyddau Cath Flin cryf
• Bydd y dysgwyr yn eich codi’n araf i safle’r Llawsafiad
• Mae’n rhaid i chi gadw’ch corff yn dynn trwy Ddal y Llygoden
• Gwthiwch trwy eich dwylo fel eich bod mor dal ag y gallwch chi fod
• Ceisiwch gadw’ch cydbwysedd wrth sefyll ar eich dwylo
• Bydd y rhai sy’n eich codi’n eich gostwng yn ôl i’r llawr yn araf
Cwestiynau
• Pa siâp y mae eich coesau’n ei wneud yn yr awyr?
• Pa mor hir gallwch chi ddal y Llawsafiad?
Cyflyru’r Corff
• Sgiliau cydsymud
• Rheolaeth*
• Osgo
• Cryfder*
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Rhagwth Blaen gan newid coesau bob yn ail
• Ystum Ymgynnal Blaen gan newid coesau bob yn ail
-
Herio
• A allwch chi arddangos siâp gwahanol â’ch coesau wrth sefyll ar eich dwylo? Dylech drafod hyn â’r rhai sy’n eich codi fel eu bod yn gwybod beth rydych chi’n ceisio’i wneud a’u bod yn gallu eich cynnal yn y modd priodol