Cyfarwyddiadau
- Bydd eich dwylo a’ch traed ar y llawr a’ch bol yn wynebu i fyny
- Gwthiwch eich bol i fyny tua’r nenfwd
- Byddwch mor llonydd ag y gallwch chi
Cwestiynau
How many different directions can you move in?
Can you spin the Crab?
Pwyntiau Addysgu Pellach
Gofynnwch i’r dysgwyr
- Gadw eu dwylo a’u traed yn wastad ar y llawr
- Cadw eu breichiau’n syth, a’u coesau wedi’u plygu
- Ceisio cadw eu bol i fyny wrth symud, a symud gan ddefnyddio’r llaw a’r droed sydd gyferbyn â’i gilydd
- Gwthio eu cluniau tua’r nenfwd a’u dal nhw i fyny mor uchel ag y gallant
Cyflyru’r Corff
Mae’n gwella
- Cryfder y stumog, yr ysgwyddau, y breichiau a’r arddyrnau
- Ystwythder yr ysgwyddau a’r cluniau/cefn
- Stamina, os caiff y weithred ei defnyddio fel gêm
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
- Gwneud siâp Cranc llonydd â’r pen-ôl ar y llawr neu fymryn oddi arno
-
Herio
- Ymestyn y cluniau i fyny mor uchel ag sy’n bosibl
- Symud i’r ochr mewn safle Cranc
- Symud o safle Cranc i safle Sgorpion (troi drosodd)