Cyfarwyddiadau
• Cadwch frest Cath Flin
• Neidiwch trwy symud o’ch dwylo i’ch traed i’ch dwylo i’ch traed
• Cadwch eich dwylo’n fflat pan fyddwch yn eu rhoi ar y llawr
• Cadwch eich breichiau’n syth pan fyddwch yn rhoi eich pwysau arnynt
• Cadwch ystum Cath flin pan fyddwch yn cymryd eich pwysau ar eich breichiau
• Ceisiwch godi eich cluniau mor uchel ag sy’n bosibl am mor hir ag sy’n bosibl
Cwestiynau
• A allwch chi Neidio fel Cwningen i wahanol gyfeiriadau – ymlaen, i’r ochr, yn ôl?
• A allwch chi osod eich dwylo mewn gwahanol gyfeiriadau?
Cyflyru’r Corff
• Gwella cryfder yr ysgwyddau, y breichiau a’r arddyrnau*
• Cyflymder adlamu
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Ewch ati i ymarfer ystum Cath Flin
• Estynnwch eich coesau er mwyn cymryd eich pwysau ar eich dwylo
• Rhowch eich dwylo i lawr a cherddwch eich traed tuag at eich dwylo
-
Herio
• Estynnwch eich dwylo ymhellach ymlaen
• Sythwch eich coesau wrth i chi neidio
• Neidiwch fel Cwningen o ochr i ochr dros fainc