Cyfarwyddiadau
• Cymerwch gam i’r ochr gan wneud Siâp Seren, stopiwch mewn ystum Rhagwth Ochr a dechreuwch gamu i’r ochr eto i’r cyfeiriad arall gan wthio oddi ar y goes sydd wedi’i phlygu yn yr ystum rhagwthio.
Cwestiynau
• Pa mor hir gallwch chi ddal y Siâp Seren ar belenni neu flaenau’ch traed?
Cyflyru’r Corff
• Osgo*
• Cydbwysedd
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Ewch ati i ymarfer siâp Syth a siâp Seren (sy’n siapiau Sylfaen), gan ddangos tyndra da yn y corff
• Gorweddwch ar eich cefn ar y llawr, tynhewch eich corff a thyfwch mor dal ac mor llydan ag y gallwch
• Yna trowch drosodd a gorweddwch ar eich bol, tynhewch eich corff a thyfwch mor dal ac mor llydan ag y gallwch
• Yna sefwch i fyny a chodwch ar belenni neu flaenau’ch traed, gwnewch Siâp Seren, edrychwch ar eich dwylo ac ymestynnwch eich corff
-
Herio
• Pa mor uchel gallwch chi gyrraedd wrth i chi gamu i’r ochr?
• A allwch chi gadw’ch breichiau’n llonydd wrth i chi gamu i’r ochr?
• A allwch chi gadw Siâp Seren clir wrth i chi deithio?
• A allwch chi droelli a theithio ar belenni neu flaenau’ch traed mewn siâp Seren?