Cyfarwyddiadau
• Dechreuwch gan sefyll mewn siâp Twc
• Disgynnwch ar eich dwylo, plygwch eich breichiau a gwthiwch yn ôl â rheolaeth heibio i’ch safle gwreiddiol, gan ddechrau rhôl yn ôl
• Rholiwch i mewn i Ysgwyddsafiad Siâp Pwc â’ch dwylo’n fflat ar y llawr wrth eich clustiau
• Dychwelwch i’r siâp Twc
Cwestiynau
• A yw’ch dwylo’n fflat ar y llawr wrth i chi gydbwyso ar eich ysgwyddau?
• A oes gennych gefn Cath Flin trwy gydol y weithred?
• Beth y mae angen i chi ei wneud i gadw rheolaeth wrth wthio yn ôl?
Cyflyru’r Corff
• Rheolaeth*
• Sgiliau cydsymud*
• Sadrwydd craidd
• Ystwythder
• Osgo
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Cam Gwthio Rhif 2
• Ysgwyddsafiad Siâp Pwc
-
Herio
• Unwaith yr ydych yn cydbwyso ar eich ysgwyddau ceisiwch amrywio safle’ch coesau
• Gorffennwch y weithred gan sefyll ar eich traed – gofynnwch i bartner eich helpu i sefyll trwy ddal eich dwylo wrth i chi wthio’ch breichiau ymlaen
• A allwch chi Rolio Dros Un Ysgwydd?
• Perfformiwch y weithred gan ddefnyddio cyfarpar