Datblygu Cam Gwthio Rhif 4

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Dechreuwch gan sefyll mewn siâp Pwc

• Gostyngwch eich hun i’r llawr a rholiwch yn ôl

• Cadwch gefn Cath Flin trwy gydol y weithred

• Rholiwch i mewn i Ysgwyddsafiad Siâp Pwc a rhowch eich dwylo’n fflat ar y llawr wrth eich clustiau

• Rhowch eich bodiau wrth eich clustiau, â’ch bysedd yn pwyntio tuag at eich ysgwyddau

• Daliwch y safle hwn ac yna rholiwch yn ôl i’r siâp Twc

Cwestiynau

• A yw’ch dwylo’n fflat ar y llawr wrth i chi gydbwyso ar eich ysgwyddau?

• A oes gennych gefn Cath Flin trwy gydol y weithred?

• Dangoswch i ffrind. A all ef neu hi eich gweld yn symud o siâp pwc i siâp twc i siâp pwc ac yn ôl?

Cyflyru’r Corff

• Rheolaeth*

• Sgiliau cydsymud*

• Sadrwydd craidd

• Ystwythder

• Osgo

• Cryfder

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Cam Gwthio Rhif 3

    • Ysgwyddsafiad Siâp Pwc

  • Herio

    • Unwaith yr ydych yn cydbwyso ar eich ysgwyddau ceisiwch amrywio safle’ch coesau.

    • Rholiwch dros un ysgwydd yn hytrach na dychwelyd i siâp Twc. Gorffennwch y weithred trwy sefyll ar eich traed – gofynnwch i bartner eich helpu i sefyll trwy ddal eich dwylo wrth ichi wthio’ch breichiau ymlaen

    • Perfformiwch y weithred gan ddefnyddio cyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Datblygu Cam Gwthio Rhif 4