Gweithred Gydbwyso 4-pwynt Wyneb i Waered

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Ffurfiwch ystum cydbwyso 6-phwynt gan ddefnyddio eich traed, eich pengliniau a’ch dwylo

• Plygwch eich breichiau a rhowch ran uchaf eich talcen ar y mat

• Ffurfiwch driongl â’ch pen ar y brig a’ch dwylo ar y gwaelod

• CADWCH EICH DWYLO’N FFLAT

• Gwnewch eich triongl yn un eithaf tal

• Perfformiwch Weithred Gydbwyso 4-pwynt â siâp triongl clir rhwng eich pen a’ch dwylo a naill ai eich troed neu eich pen-glin yn bedwerydd pwynt

• Dylech gymryd y rhan fwyaf o’r pwysau ar eich dwylo. PEIDIWCH Â SYMUD EICH DWYLO

Cwestiynau

• Beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn cymryd y pwysau ar eich dwylo?

• Pam y mae siâp triongl yn eich helpu i gadw cydbwysedd?

Cyflyru’r Corff

• Sadrwydd craidd

• Cryfder yr arddyrnau*

• Cydbwysedd

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Lledwch eich dwylo mewn ystum Cath Flin a gostwng eich pen i’r llawr

  • Herio

    • Ceisiwch ddefnyddio’r ben-glin neu’r droed arall yn bedwerydd pwynt

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Gweithred Gydbwyso 4-pwynt Wyneb i Waered