Cyfarwyddiadau
• Dechreuwch â’ch dwylo a’ch traed ar y fainc.
• Perfformiwch Naid Codi’r Cluniau trwy gicio un droed i fyny yna’r llall gan lanio ar y llawr wrth ochr y fainc, ag un droed yn gyntaf yna’r llall (chwith dde/dde chwith)
• Yna perfformiwch Naid Codi’r Cluniau dros Fainc, gan ddechrau ar un ochr i’r fainc a chicio i fyny a thros y fainc gan lanio un droed yn gyntaf yna’r llall (chwith dde/dde chwith) ar ochr arall y fainc
Cwestiynau
• Pa mor uchel gallwch chi godi eich cluniau?
• Pam ydych chi’n meddwl ei bod hi’n haws dechrau ar y fainc?
• A yw’n haws perfformio Naid Codi’r Cluniau dros Fainc o safle llonydd neu gan deithio ar hyd y fainc?
Cyflyru’r Corff
• Gwella cryfder yr ysgwyddau, y breichiau a’r arddyrnau*
• Sgiliau cydsymud
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Ewch ati i ymarfer neidio yn eich unfan a glanio ar un droed, yna dwy droed
• Ewch ati i ymarfer gwneud Naid Cwningen dros Fainc
-
Herio
• A allwch chi gael eich coesau’n fwy syth bob tro?
• Cyfrwch sawl Naid Codi’r Cluniau sydd ei hangen i deithio ar hyd y fainc
• Nawr ceisiwch gynyddu’r nifer
• Nawr ceisiwch leihau’r nifer
• Ceisiwch symud o ystum Rhagwth Blaen i Naid Codi’r Cluniau