Cyfarwyddiadau
• Sefwch yn wynebu mainc yna symudwch o ystum Rhagwth Blaen i mewn i Naid Codi’r Cluniau trwy gicio un droed i fyny yna’r llall gan lanio ar y llawr wrth ochr y fainc, ag un droed yna’r llall (chwith dde / dde chwith)
• Yna perfformiwch heb y fainc, gan symud o ystum Rhagwth Blaen i mewn i Naid Codi’r Cluniau ar y llawr trwy gicio i fyny a glanio ar un droed yna’r droed arall (troed chwith yna’r droed dde, neu droed dde yna’r droed chwith)
Cwestiynau
• Pam mae’n rhaid i chi gadw’ch breichiau’n syth?
• A yw’n haws neu’n anos perfformio Naid Codi’r Cluniau dros Fainc neu ar y llawr?
Cyflyru’r Corff
• Gwella cryfder yr ysgwyddau, y breichiau a’r arddyrnau*
• Sgiliau cydsymud
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Ewch ati i ymarfer Naid Codi’r Cluniau dros Fainc
-
Herio
Gwnewch ystum Rhagwth Blaen ac estynnwch yr ongl dechrau a gorffen (siâp ffan) fel bod eich traed yn glanio ymhellach o’ch man cychwyn bob tro. Defnyddiwch sbotiau plastig, marcwyr ar gyfer y dwylo a’r traed a sialc i gynyddu’r ongl.