Olwyndro

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Defnyddiwch fat ar oledd os oes un ar gael

• Cwympwch ymlaen i’r ystum Rhagwth Blaen

• Rhowch y llaw sydd ar yr un ochr o’r corff â’r goes sydd wedi’i phlygu ar y mat ychydig o flaen y goes

• Swingiwch eich coes ôl yn gadarn ac estynnwch ymlaen â’ch llaw arall i wneud llinell syth â’ch dwylo a’ch traed

• Trowch y llaw honno o amgylch ychydig ac yn ôl tuag atoch

• Gwthiwch yn gadarn iawn oddi ar y goes sydd wedi’i phlygu gan gadw’r goes ôl yn swingio’r holl ffordd dros eich pen

• Erbyn i’r goes sydd wedi’i phlygu sythu, dylech fod wyneb i waered mewn siâp Seren

• Dylai fod gennych ddigon o fomentwm i wthio oddi ar eich dwylo gan lanio ar eich traed mewn siâp Seren – llaw, llaw, troed, troed

Cwestiynau

• A allwch chi deimlo’r siâp Seren wrth i chi Olwyndroi?

• Pam mae’n rhaid i chi wthio’n gadarn oddi ar y goes sydd wedi’i phlygu?

• A oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i wella’ch Olwyndro?

• Beth y mae angen i chi ei wneud i wneud Olwyndro yn llwyddiannus?

Cyflyru’r Corff

• Gwella cryfder yr ysgwyddau, y breichiau a’r arddyrnau

• Gwella ystwythder yr ysgwyddau

• Sgiliau cydsymud

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ewch ati i ymarfer y teulu o weithrediadau Olwyndroi

    • Ewch ati i ymarfer ar oledd

  • Herio

    • Ceisiwch Olwyndroi ar hyd llinell

    • Perfformiwch Olwyndro oddi ar fainc

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Olwyndro