Sêr yn Troelli

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Sefwch wysg eich ochr â’ch cefn tuag at y fainc

• Trowch eich pen i edrych ar y fainc

• Gwnewch siâp Seren cyn newid i ystum Rhagwth Ochr

• Rhowch y llaw sydd ar yr un ochr o’r corff â’r goes sydd wedi’i phlygu i lawr ar y fainc, cadwch eich braich yn syth a dechreuwch swingio’ch coes syth o’r tu ôl

• Byddwch yn teimlo’ch corff yn dechrau troi

• Gwthiwch yn galed oddi ar y goes sydd wedi’i phlygu a rhowch eich llaw arall ar y fainc

• Parhewch i swingio a throi hyd nes bod y goes sy’n swingio yn glanio ar y llawr

• Codwch eich cluniau a’ch pen-ôl yn uchel a chadwch eich traed yn isel wrth i chi swingio a throi

• Gwthiwch o’ch braich a throwch eich ysgwyddau er mwyn sefyll i fyny mewn siâp seren â’ch cefn tuag at y fainc eto

Cwestiynau

• Pam ydych chi’n meddwl bod eich corff yn dechrau troi?

• Pam ydych chi’n meddwl bod angen i chi gadw’ch traed yn isel?

• A yw’n haws perfformio’r weithred Sêr yn Troelli yn gyflym neu’n araf?

Cyflyru’r Corff

• Gwella cryfder yr ysgwyddau, y breichiau a’r arddyrnau

• Sgiliau cydsymud*

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Camwch trwy’r weithred o’r safle cychwyn i’r safle gorffen er mwyn marcio’r cyfeiriad y byddwch yn teithio iddo

  • Herio

    • Ceisiwch gael eich coesau’n fwy syth bob tro

    • Ceisiwch ymestyn eich corff a gwneud Siâp Seren

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Sêr yn Troelli