Rhybudd diogelwch
Peidiwch byth â rholio allan o Bensafiad
Cadwch eich dwylo’n fflat
Peidiwch â symud eich dwylo unwaith rydych wedi codi’ch traed oddi ar y llawr.
Cyfarwyddiadau
• PEIDIWCH BYTH Â RHOLIO ALLAN O BENSAFIAD
• Ffurfiwch ystum cydbwyso 6-phwynt gan ddefnyddio eich traed, eich pengliniau a’ch dwylo
• Plygwch eich breichiau a rhowch ran uchaf eich talcen ar y mat
• Gwnewch driongl â’ch pen ar y brig a’ch dwylo ar y gwaelod
• CADWCH EICH DWYLO’N FFLAT
• Gwnewch eich triongl yn un eithaf tal
• Codwch eich pengliniau oddi ar y llawr
• Dylech gymryd y rhan fwyaf o’r pwysau ar eich dwylo. PEIDIWCH Â SYMUD EICH DWYLO
• Symudwch eich traed yn nes at eich dwylo
• Tynnwch un droed oddi ar y mat, plygwch eich coes ac arhoswch yn llonydd
• Tynnwch y droed arall oddi ar y mat, plygwch eich coes ac arhoswch yn llonydd
• Gwthiwch ar eich dwylo gan gadw eich penelinoedd yn syth ac yn llonydd
• Ceisiwch sythu eich coesau am i fyny
Cwestiynau
• A oes angen i chi gael eich traed yn agos at eich dwylo er mwyn gallu codi’r ddwy droed oddi ar y mat?
• Pa mor hir gallwch chi ddal yr ystum cydbwyso hwn?
• A allwch chi godi’r ddwy droed oddi ar y llawr ar yr un pryd?
Cyflyru’r Corff
• Sadrwydd craidd
• Cryfder yr arddyrnau
• Cydbwysedd
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Gweithred Gydbwyso 4-Pwynt Wyneb i Waered
• Gweithred Gydbwyso 3-phwynt
-
Herio
• Ceisiwch amrywio’r siapiau y mae eich coesau’n eu creu