Rhôl Cath

Wrth i ni ddatblygu

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Dechreuwch ar eich dwylo a’ch pengliniau mewn safle Cath flin
  • Gostyngwch un ysgwydd i’r llawr trwy roi un fraicho dan y corff ac ar ei draws
  • Ceisiwch anelu at rolio’n llyfn, o fod ar eich dwylo a’ch pengliniau i orwedd ar eich cefn, ac yn ôl i fodar eich dwylo a’ch pengliniau eto
  • Cadwch eich corff mewn siâp Cath flin trwy gydol y symudiad

Pwyntiau Addysgu Pellach

Dylai’r dysgwyr

  • Ostwng un ysgwydd i’r llawr trwy roi un fraich o dan y corff ac ar ei draws
  • Ceisio anelu at rolio’n llyfn, o fod areu dwylo a’u pengliniau i orwedd areu cefn, ac yn ôl i fod ar eu dwylo a’u pengliniau eto
  • Cadw siâp Cath flin trwy gydol ysymudiad

Cyflyru’r Corff

Mae’n gwella

  • Osgo
  • Cryfder y stumog
  • Ystwythder yr ysgwyddau a’r cefn

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Dechrau mewn safle twc ar y cefn a rholio i’r pengliniau
    • Dechrau mewn safle Cath flinwyneb i waered a rholio i’r dwylo a’r pengliniau
  • Herio

    • Ceisio gwneud y rhôl gyfan mewn siâp pelen tynn
    • Rholio’n gyflym iawn
    • Newid y siâp pan fyddant ar eu cefn
    • Dechrau a gorffen y rhôl ar un pen-glin â’r goes arall wedi’i hymestyn i’r ochr, a gyda chefn syth

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Rhôl cath