Cyfarwyddiadau
• Dechreuwch gan sefyll mewn siâp stradl isel
• Rhowch eich dwylo ar y llawr yn agos at eich traed
• Plygwch eich breichiau a chadwch eich pen i lawr trwy roi’ch gên ar eich brest
• Rholiwch fel mai dim ond eich ysgwyddau sy’n cyffwrdd â’r llawr, nid eich pen na’ch gwar
• Cadwch eich pengliniau gyda’i gilydd wrth i chi rolio
• Gorffennwch y rhôl trwy sefyll ar eich traed
Cwestiynau
• Beth sy’n digwydd os nad ydych yn aros mewn siâp Twc tynn?
• Sut mae angen i chi ddefnyddio’ch breichiau i wneud yn siŵr eich bod yn gallu sefyll i fyny?
Cyflyru’r Corff
• Sgiliau cydsymud*
• Rheolaeth*
• Osgo
• Cryfder
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Ewch ati ymarfer y Rhôl Ymlaen oddi ar Fainc neu oddi ar Focs
• Ewch ati i ymarfer y Rhôl Ymlaen ar Oledd
• Gweithiwch gyda phartner sy’n sefyll o’ch blaen; wrth i chi estyn ymlaen gofynnwch i’ch partner afael yn eich dwylo er mwyn eich helpu i sefyll
-
Herio
• Rholiwch ymlaen gan orffen mewn amrywiaeth o safleoedd/siapiau
• Ceisiwch rolio o siâp stradl uwch