Rhôl Ymlaen

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Dechreuwch gan sefyll i fyny’n syth â’ch traed gyda’i gilydd

• Symudwch i sefyll mewn siâp Pwc

• Rhowch eich dwylo’n fflat ar y llawr yn agos at eich traed

• Plygwch eich breichiau a chadwch eich pen i lawr trwy roi’ch gên ar eich brest

• Gwthiwch drwy’ch traed i sythu’ch coesau

• Rholiwch fel mai dim ond eich ysgwyddau sy’n cyffwrdd â’r llawr, nid eich pen na’ch gwar

• Cadwch eich pengliniau gyda’i gilydd wrth i chi rolio

• Gorffennwch y rhôl trwy sefyll ar eich traed

• Dangoswch siapiau Syth, Dysgl, Pwc, Peic, Twc, Pwc, Dysgl a Syth wrth rolio

 

Cwestiynau

• Beth sy’n digwydd os nad ydych yn aros mewn siâp Twc tynn?

• Sut mae angen i chi ddefnyddio’ch breichiau i wneud yn siwˆr eich bod yn gallu sefyll i fyny?

Cyflyru’r Corff

• Sgiliau cydsymud*

• Rheolaeth*

• Osgo

• Cryfder

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ewch ati i ymarfer y Rhôl Ymlaen ar Oledd

    • Gweithiwch gyda phartner sy’n sefyll o’ch blaen; wrth i chi estyn ymlaen i sefyll gofynnwch i’ch partner afael yn eich dwylo er mwyn eich helpu i sefyll i fyny

  • Herio

    • Rholiwch ymlaen gan orffen mewn amrywiaeth o safleoedd/siapiau

    • Rholiwch gan ddefnyddio cyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Rhôl Ymlaen