Super Mario

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Seilir y gêm ar unrhyw gymeriad gêm llwyfan. Mae’r athro’n rhoi sylwebaeth ar siwrnai’r cymeriad drwy’r gêm.
  • Dylid annog neidio’n uchel a phell, gan neidio i wahanol gyfeiriadau, neidio dros wrthrychau, neidio ar lwyfannau ayyb.
  • Dylid ystyried defnyddio tâp sain o’r gêm fel arwyddion ar gyfer rhai gweithredoedd. Dylid ystyried cael y disgyblion i baratoi eu traciau sain eu hunain mewn sesiwn TGCh.

Cyflyru’r Corff

  • Datblygu stamina/dygnedd a chryfder

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Symud yn araf, neidiau sylfaenol, cyfnod byr
    • Ymarfer y gweithredoedd heb fod mewn sefyllfa gêm
  • Herio

    • Symud yn gyflym, cyfresi cymhleth o neidiau a gweithredoedd

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Super-mario