Y Crëyr

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Sefwch yn syth
  • Gwnewch ystum Dal y Llygoden
  • Codwch eich breichiau yn syth o’ch blaen, lled yr ysgwyddau ar wahân ac yn gyfochrog â’r llawr
  • Canolbwyntiwch ar bwynt yn syth o’ch blaen ar yr un lefel â’r llygaid
  • Codwch un goes yn syth o’ch blaen gan gadw’r ben-glin wedi’i phlygu ar ongl o 90º ac yn gyfochrog â’ch breichiau
  • Estynnwch y droed a’i chadw’n agos at y goes sy’n cynnal pwysau’r corff
  • Cadwch y goes sy’n cynnal pwysau’r corff yn syth â’r droed yn fflat ar y llawr ac wedi’i throi allan ychydig

Cwestiynau

  • Pa mor hir gallwch chi ddal yr ystum cydbwyso hwn?
  • A allwch chi gau eich llygaid a dal i gydbwyso yn yr ystum hwn?
  • A allwch chi berfformio’r Crëyr ar y goes arall?

Cyflyru’r Corff

  • Cydbwysedd*
  • Sadrwydd craidd
  • Osgo
  • Cryfder
  • Ystwythder

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Sefwch yn syth, gan godi’ch breichiau’n syth o’ch blaen hyd nes eu bod yn gyfochrog â’r llawr
    • Gwnewch fel yr uchod, ond codwch i fyny ar belenni neu flaenau’r traed gan ddal eich breichiau allan o’ch blaen
    • Cadwch eich dwylo wrth eich ochr a chodwch eich coes ychydig oddi ar y llawr
    • Codwch eich coes i’r safle cywir gan ddefnyddio’ch breichiau mewn unrhyw ffordd i’ch helpu i gadw’ch cydbwysedd
  • Herio

    • Defnyddiwch y naill goes neu’r llall
    • Trowch o amgylch
    • Codwch i fyny ar belenni neu flaenau’r traed
    • Codwch i fyny ar belenni neu flaenau’r traed a throelli
    • Newidiwch safle’r goes rydd o flaen y corff, y tu ôl i’r corff, i’r ochr

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Y Crëyr