Cyfarwyddiadau
• Gweithiwch mewn grwpiau o dri, gydag un yn sefyll ar ei ddwylo, un yn cynnal eich ysgwyddau ac un yn cynnal eich cluniau a’ch coesau. Dylai’r rhai sy’n eich cynnal sefyll bob ochr i chi y tu ôl i’ch dwylo
• Dechreuwch yn yr ystum Ymgynnal Blaen â’ch dwylo’n fflat ar y llawr, eich bysedd wedi’u lledu a’ch bysedd bawd tua 3cm ar wahân a’ch traed gyda’i gilydd
• Edrychwch ar eich dwylo
• Symudwch un droed ymlaen ychydig a phlygwch y goes honno
• Dylech gadw ysgwyddau Cath Flin cryf
• Gwthiwch yn gryf oddi ar eich troed flaen a chiciwch y ddwy goes mor uchel ag y gallwch gan geisio’u cadw’n syth
• Wrth i chi wthio, bydd y rhai sy’n eich cynnal yn cynnal eich pwysau yn ôl yr angen
• Peidiwch â phlygu eich breichiau, peidiwch â symud eich dwylo, gafaelwch yn y llawr â’ch bysedd, edrychwch ar eich dwylo drwy’r amser
• Ceisiwch gadw’ch cydbwysedd wrth sefyll ar eich dwylo
• Dewch allan o’r Llawsafiad un goes ar y tro
• Dylech deimlo’r ystum Rhagwth Blaen wrth i chi ddod â’r goes gyntaf i lawr
Cwestiynau
• Pa siâp mae eich coesau’n ei wneud yn yr awyr?
• Pa mor hir gallwch chi gadw’ch coesau yn yr awyr?
Cyflyru’r Corff
• Sgiliau cydsymud
• Rheolaeth*
• Osgo
• Cryfder*
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Codi Berfa
• Perfformio yn erbyn wal
• Perfformio ar ychydig o lethr
-
Herio
• A allwch chi gicio i mewn i’r Llawsafiad â rhywun yn eich gwylio rhag ofn bod angen cymorth arnoch?