4 Gôl

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Trefnwch y plant yn ddau dîm o bump mewn gardd fawr (maes chwarae) sydd wedi’i rhannu gan linell hanner, gyda dwy gôl ar y naill linell gôl a’r llall
  • Bydd pedwar aelod o bob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd, a bydd pob tîm yn penodi un aelod i fod yn arweinydd y gêm
  • Bydd gan bob tîm ddau ymosodwr a dau amddiffynnwr
  • Bydd y timau’n taflu ceiniog i’r awyr i benderfynu pa dîm fydd yn dechrau gyda phas o’r man canol. Bydd y tîm â’r meddiant yn anfon ac yn derbyn y bêl o’r naill i’r llall gan symud tuag at ei goliau. Caiff gôl ei sgorio os bydd y bêl yn croesi’r llinell derfyn gan fynd i mewn i’r naill gôl neu’r llall
  • Bydd aelodau’r tîm sydd heb y bêl yn ceisio ei rhyng-gipio neu’n ceisio taclo’r chwaraewr i gael y bêl. Os bydd y tîm hwnnw’n ennill y meddiant bydd aelodau’r tîm yn anfon ac yn derbyn y bêl o’r naill i’r llall gan symud yn nes at y goliau a phasio’r bêl i’r ymosodwyr yn y tîm er mwyn iddynt roi cynnig ar sgorio
  • Ar ôl i un tîm sgorio gôl, bydd y tîm arall yn ailddechrau’r gêm o’r man canol
  • Bydd angen i’r plant newid rolau ar ôl amser penodol. Sicrhewch fod pob chwaraewr yn treulio’r un faint o amser ym mhob rôl
  • Bydd y plant sy’n arweinwyr y gêm yn helpu i drefnu’r gêm ac yn helpu eu cydchwaraewyr i wella

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
  • bod digon o le gwag rhwng yr ardaloedd chwarae
  • bod y plant yn aros i’r bêl gael ei thaflu yn ôl atynt os bydd yn mynd allan i ardal chwarae arall
  • bod y plant yn taclo’n ddiogel a dan reolaeth
  • bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n defnyddio cadair olwyn neu fframiau fel y bo’n briodol

Cyfleoedd i

  • ddatblygu rheolaeth, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
  • datblygu ymwybyddiaeth ofodol
  • deall gwahanol rolau a datblygu ynddynt – rôl ymosodwr, amddiffynnwr, arweinydd y gêm
  • cymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu gwaith dysgu eu hunain a gofyn cwestiynau perthnasol er mwyn ymestyn a gwella eu perfformiad
  • gwrando’n ofalus ar yr hyn y mae eraill yn ei ddweud am eu gwaith a defnyddio eu sylwadau i wella effeithiolrwydd ac ansawdd eu perfformiadau eu hunain a pherfformiadau plant eraill

Cwestiynau

  • Sut gwnaethoch chi sicrhau bod pawb yn cymryd rhan?
  • Sut roedd arweinydd y gêm wedi eich helpu i wella’r modd roeddech chi’n chwarae?
  • Beth wnaethoch chi i sicrhau eich bod yn chwarae’n ddiogel?
  • Beth wnaethoch chi i sicrhau eich bod yn chwarae’n deg?
  • Beth wnaethoch chi i annog eich cydchwaraewyr?
  • Beth wnaethoch chi/beth wnaeth eich tîm yn dda yn eich barn chi?
  • Sut gallech chi wella’r modd rydych chi’n chwarae y tro nesaf?
  • Pa rôl rydych chi’n ei mwynhau fwyaf/leiaf, a pham?
  • Sut gwnaethoch chi bethau’n anodd i’r amddiffynwyr/ymosodwyr?
  • Sut gallwch chi guro amddiffynnwr?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Change the:

  • Lle

    • maint yr ardd – bydd ardaloedd llai o faint yn ei gwneud hi’n anos ymosod ac yn haws amddiffyn, a bydd y gwrthwyneb yn wir am ardal fwy o faint
    • maint y goliau
  • Tasg

    • y rheolau mewn perthynas â meddiant, e.e. rhaid cwblhau 4 pas cyn sgorio neu rhaid rhedeg allan i ymyl yr ardd ar ôl pasio neu geisio rhyng-gipio’r bêl ac ati
    • y rheolau mewn perthynas ag ardaloedd, e.e. dim ond ymosodwyr all chwarae yn yr hanner y maent yn ymosod ynddi, a dim ond ymosodwyr all sgorio ac ati
  • Offer

    • yr offer a ddefnyddir – defnyddio offer mewn gwahanol ffyrdd, defnyddio offer nad ydynt yn draddodiadol, a defnyddio pêl glychau i gynorthwyo plant â nam ar y golwg
  • Pobl

    • y system a ddefnyddir i newid rolau fel bod y timau’n dewis pwy sy’n chwarae pa rôl yn erbyn timau penodol neu mewn sesiynau chwarae penodol. Fodd bynnag, rhaid bod y system yn deg a rhaid bod y plant yn treulio’r un faint o amser ym mhob rôl