4 Gôl
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau
Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant yn ddau dîm o bump mewn gardd fawr (maes chwarae) sydd wedi’i rhannu gan linell hanner, gyda dwy gôl ar y naill linell gôl a’r llall
- Bydd pedwar aelod o bob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd, a bydd pob tîm yn penodi un aelod i fod yn arweinydd y gêm
- Bydd gan bob tîm ddau ymosodwr a dau amddiffynnwr
- Bydd y timau’n taflu ceiniog i’r awyr i benderfynu pa dîm fydd yn dechrau gyda phas o’r man canol. Bydd y tîm â’r meddiant yn anfon ac yn derbyn y bêl o’r naill i’r llall gan symud tuag at ei goliau. Caiff gôl ei sgorio os bydd y bêl yn croesi’r llinell derfyn gan fynd i mewn i’r naill gôl neu’r llall
- Bydd aelodau’r tîm sydd heb y bêl yn ceisio ei rhyng-gipio neu’n ceisio taclo’r chwaraewr i gael y bêl. Os bydd y tîm hwnnw’n ennill y meddiant bydd aelodau’r tîm yn anfon ac yn derbyn y bêl o’r naill i’r llall gan symud yn nes at y goliau a phasio’r bêl i’r ymosodwyr yn y tîm er mwyn iddynt roi cynnig ar sgorio
- Ar ôl i un tîm sgorio gôl, bydd y tîm arall yn ailddechrau’r gêm o’r man canol
- Bydd angen i’r plant newid rolau ar ôl amser penodol. Sicrhewch fod pob chwaraewr yn treulio’r un faint o amser ym mhob rôl
- Bydd y plant sy’n arweinwyr y gêm yn helpu i drefnu’r gêm ac yn helpu eu cydchwaraewyr i wella