Creaduriaid Craff
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant yn ddau dîm o bedwar
- Crëwch ardal chwarae sy’n cynnwys tri pharth mewn ‘gardd’
- Bydd yr ymosodwyr mewn un tîm yn ceisio sgorio goliau/pwyntiau, a bydd yr amddiffynwyr yn y tîm arall yn ceisio eu hatal rhag sgorio
- Yn y tîm sy’n ymosod bydd tri chwaraewr yn dechrau y tu ôl i’r llinell derfyn gyda’r bêl, a bydd y chwaraewr arall yn chwarae rôl hyfforddwr neu ddyfarnwr/swyddog
- Yn y tîm sy’n amddiffyn rhaid i un amddiffynnwr aros ym mhob parth, a bydd y chwaraewr arall yn chwarae rôl hyfforddwr neu ddyfarnwr/swyddog
- Bydd chwaraewyr y tîm sy’n ymosod yn pasio’r bêl o’r naill i’r llall, gan symud trwy’r parthau i’r pen lle byddant yn sgorio, a bydd chwaraewyr y tîm sy’n amddiffyn yn ceisio rhyng-gipio’r bêl i sgorio pwyntiau i’w tîm nhw
- Bydd angen i’r plant ddod i benderfyniad ynghylch y canlynol: sawl gwaith y gellir pasio’r bêl ym mhob parth; sut y gellir pasio a derbyn y bêl; beth y gallant ei wneud pan fydd y bêl gyda nhw; beth fydd yn digwydd os caiff y bêl ei gollwng neu os bydd yn mynd allan o’r ardal chwarae; sut y bydd pob tîm yn sgorio pwyntiau/goliau; pryd y byddant yn newid o fod yn ymosodwyr i fod yn amddiffynwyr ac ati
- Bydd gan y tîm sy’n ymosod bedwar cyfle i sgorio cynifer o goliau ag sy’n bosibl, yna bydd y timau’n cyfnewid lle