Pump yn Pasio

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Trefnwch y plant yn ddau dîmo bump mewn ‘gardd’ syddwedi’i rhannu’n dri pharth.Bydd smotyn yng nghanoly parth canol, a bydd parthausaethu yn y ddau barth ary pen
  • Bydd pedwar aelod o bobtîm yn chwarae yn erbynei gilydd a bydd pob tîmyn penodi un hyfforddwr/dyfarnwr. Gofynnwch i’r plantbenderfynu ar ffordd dego newid rolau
  • Bydd y tîm sy’n chwarae yncynnwys dau saethwr, uncysylltydd ac un amddiffynnwr.Nid oes hawl gan y saethwyrfynd i mewn gylch saethu’rgwrthwynebwyr, nid oes hawlgan y cysylltwyr fynd i mewni’r naill gylch saethu neu’r llall,ac nid oes hawl ganyr amddiffynwyr fynd i mewni’w cylch saethu eu hunain
  • Bydd y timau’n taflu ceiniogi’r awyr i benderfynu pa dîmfydd yn dechrau’r gêm gydaphas o’r man canol. Rhaidi bob chwaraewr ar wahâni’r cysylltwyr ddechrau y tuallan i’r parth canol a symud imewn i’r parth canol i dderbyny pas cyntaf. Bydd aelodau’rtîm sy’n ymosod (y tîm syddâ’r meddiant) yn anfon ac ynderbyn y bêl o’r naill i’r llallgan symud yn nes at eu parthsaethu. Dim ond saethwr allsgorio gôl a rhaid iddo fod ynei barth saethu ei hun
  • Bydd aelodau’r tîm sydd heby bêl yn ceisio ei rhyng-gipio.Os bydd y tîm hwnnw’n ennilly meddiant, bydd aelodau’rtîm yn anfon ac yn derbyny bêl o’r naill i’r llall gan symudyn nes at eu parth saethua phasio’r bêl i’r saethwyrer mwyn iddynt roi cynnigar sgorio
  • Ar ôl i un tîm sgorio gôl byddy tîm arall yn ailddechrau’rgêm o’r man canol• Ni all y chwaraewyr symudunwaith y bydd y bêl yn eumeddiant
  • Rhaid i bob chwaraewr aroso leiaf 3 troedfedd (1m) i ffwrddwrth y chwaraewr â’r bêl
  • Ni ddylai’r plant daro yn erbynei gilydd

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
  • bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
  • bod y plant yn aros i’r bêl gael ei thaflu yn ôl atynt os bydd yn mynd allan i ‘ardd’ arall
  • nad yw’r plant yn taro yn erbyn ei gilydd
  • bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n defnyddio cadair olwyn neu fframiau fel y bo’n briodol

Cyfleoedd i

  • ddatblygu rheolaeth, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
  • datblygu ymwybyddiaeth ofodol, gan gynnwys deall a dangos y cysyniad o sefyll yn y mannau cywir a’r mannau anghywir
  • cydweithio ag eraill a pharchu confensiynau chwarae teg, cydraddoldeb ac ymddygiad priodol
  • deall gwahanol rolau a datblygu ynddynt – rôl saethwr, cysylltydd, amddiffynnwr, dyfarnwr a hyfforddwr
  • gwrando’n ofalus ar yr hyn y mae eraill yn ei ddweud am eu gwaith a defnyddio eu sylwadau i wella effeithiolrwydd ac ansawdd eu perfformiadau eu hunain a pherfformiadau plant eraill

Cwestiynau

  • Sut gwnaethoch chi sicrhau eich bod wedi newid rolau mewn modd teg?
  • Pa mor dda roeddech chi wedi gweithio fel unigolyn/tîm?
  • Pa mor dda roeddech chi wedi cyfathrebu fel tîm?
  • Sut gwnaethoch chi gefnogi ac annog eich cydchwaraewyr?
  • Pa rôl rydych chi’n ei hoffi fwyaf/leiaf? Pam?
    – Beth allwch chi ei wneud i wella eich perfformiad yn y rôl hon?
  • Sut dangosoch chi chwarae teg ac agwedd iach?- Beth arall allech chi ei wneud y tro nesaf i wella hynny?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Change the:

  • Lle

    • maint y man chwarae – bydd yn anos ymosod ac yn haws amddiffyn mewn ardal lai o faint, a bydd y gwrthwyneb yn wir am ardal fwy o faint
    • maint y parth saethu
  • Tasg

    • y rheolau mewn perthynas â meddiant, e.e. nifer y pasiau y gellir eu cwblhau ym mhob parth, rhaid rhedeg i ymyl yr ‘ardd’ ac yn ôl ar ôl pasio’r bêl. Y rheolau wrth amddiffyn, e.e. rhaid rhedeg allan i ymyl yr ‘ardd’ ac yn ôl ar ôl ceisio rhyng-gipio’r bêl neu ar ôl bod yn marcio am dair eiliad ac ati. Gallai hynny ddigwydd mewn ymateb i symbyliad gan yr hyfforddwr/dyfarnwr
    • y rheolau mewn perthynas ag am ba hyd y gellir cadw’r meddiant, a faint o amser sydd gan saethwr cyn bod yn rhaid iddo anelu am y gôl ac ati
    • y rheolau mewn perthynas ag ailddechrau’r gêm, er enghraifft pan fydd un tîm wedi sgorio bydd y tîm arall yn ailddechrau trwy basio o gefn y cwrt. Gofynnwch i’r plant drafod a fydd hynny’n gwneud y gêm yn haws neu’n anos
  • Offer

    • yr offer a ddefnyddir – defnyddio offer mewn gwahanol ffyrdd, defnyddio offer nad ydynt yn draddodiadol yn enwedig wrth greu goliau, a defnyddio peli â chlychau a thargedau sy’n gwyro
  • Pobl

    • nifer y bobl ym mhob tîm, er enghraifft dau dîm o saith – dau saethwr, un cysylltydd a dau amddiffynnwr, yn ogystal â hyfforddwr a dyfarnwr
    • y system ar gyfer newid chwaraewyr, fel bod y timau’n dewis pwy sy’n chwarae rôl y saethwyr, y cysylltydd a’r amddiffynwyr. Fodd bynnag, rhaid cael ffordd deg o newid yr hyfforddwr/dyfarnwr
    • y symbyliadau a roddir – rhoi symbyliadau llafar i blant â nam ar y golwg