Pump yn Pasio
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau
Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant yn ddau dîm o bump mewn ‘gardd’ sydd wedi’i rhannu’n dri pharth. Bydd smotyn yng nghanol y parth canol, a bydd parthau saethu yn y ddau barth ar y pen
- Bydd pedwar aelod o bob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd a bydd pob tîm yn penodi un hyfforddwr/dyfarnwr. Gofynnwch i’r plant benderfynu ar ffordd deg o newid rolau
- Bydd y tîm sy’n chwarae yn cynnwys dau saethwr, un cysylltydd ac un amddiffynnwr. Nid oes hawl gan y saethwyr fynd i mewn gylch saethu’r gwrthwynebwyr, nid oes hawl gan y cysylltwyr fynd i mewn i’r naill gylch saethu neu’r llall, ac nid oes hawl gan yr amddiffynwyr fynd i mewn i’w cylch saethu eu hunain
- Bydd y timau’n taflu ceiniog i’r awyr i benderfynu pa dîm fydd yn dechrau’r gêm gyda phas o’r man canol. Rhaid i bob chwaraewr ar wahân i’r cysylltwyr ddechrau y tu allan i’r parth canol a symud i mewn i’r parth canol i dderbyn y pas cyntaf. Bydd aelodau’r tîm sy’n ymosod (y tîm sydd â’r meddiant) yn anfon ac yn derbyn y bêl o’r naill i’r llall gan symud yn nes at eu parth saethu. Dim ond saethwr all sgorio gôl a rhaid iddo fod yn ei barth saethu ei hun
- Bydd aelodau’r tîm sydd heb y bêl yn ceisio ei rhyng-gipio. Os bydd y tîm hwnnw’n ennill y meddiant, bydd aelodau’r tîm yn anfon ac yn derbyn y bêl o’r naill i’r llall gan symud yn nes at eu parth saethu a phasio’r bêl i’r saethwyr er mwyn iddynt roi cynnig ar sgorio
- Ar ôl i un tîm sgorio gôl bydd y tîm arall yn ailddechrau’r gêm o’r man canol
- Ni all y chwaraewyr symud unwaith y bydd y bêl yn eu meddiant
- Rhaid i bob chwaraewr aros o leiaf 3 troedfedd (1m) i ffwrdd wrth y chwaraewr â’r bêl
- Ni ddylai’r plant daro yn erbyn ei gilydd