Tennis Tag i Dimau

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau

Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Trefnwch y plant yn ddau dîm o ddau • Defnyddiwch farcwyr neu linellau i greu gardd a gaiff ei rhannu gan rwystr neu fwlch ‘gwaharddedig’
  • Trefnwch fod dau blentyn (un o bob tîm) yn chwarae yn erbyn ei gilydd i ddechrau gyda’r ddau blentyn arall yn cadw’r sgôr
  • Y tîm cyntaf i sgorio deg pwynt fydd yn ennill
  • Gosodwch res o ddeg côn ar hyd ochr y cwrt i helpu’r plant i gadw’r sgôr (gofynnwch i’r plant droi un côn drosodd pan fydd un tîm wedi ennill pwynt)
  • Bydd angen stopio ar ddiwedd pob pwynt a chytuno ar y sgôr cyn y pwynt nesaf
  • Ar ôl bob pedwar pwynt caiff y ddau blentyn eu ‘tagio’ wrth i’w cydchwaraewyr gymryd eu lle, a bydd y chwarae’n parhau. Bydd y sgôr yn cario ymlaen yn ddi-dor
  • Wedi i un tîm gyrraedd deg pwynt dylai’r plant ysgwyd llaw â’u gwrthwynebwyr
  • Bydd angen i’r plant benderfynu sut i newid y timau drosodd er mwyn chwarae yn erbyn cynifer o dimau ag sy’n bosibl