Tennis Tag i Dimau
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant yn ddau dîm o ddau
- Defnyddiwch farcwyr neu linellau i greu gardd a gaiff ei rhannu gan rwystr neu fwlch ‘gwaharddedig’
- Trefnwch fod dau blentyn (un o bob tîm) yn chwarae yn erbyn ei gilydd i ddechrau gyda’r ddau blentyn arall yn cadw’r sgôr
- Y tîm cyntaf i sgorio deg pwynt fydd yn ennill
- Gosodwch res o ddeg côn ar hyd ochr y cwrt i helpu’r plant i gadw’r sgôr (gofynnwch i’r plant droi un côn drosodd pan fydd un tîm wedi ennill pwynt)
- Bydd angen stopio ar ddiwedd pob pwynt a chytuno ar y sgôr cyn y pwynt nesaf
- Ar ôl bob pedwar pwynt caiff y ddau blentyn eu ‘tagio’ wrth i’w cydchwaraewyr gymryd eu lle, a bydd y chwarae’n parhau. Bydd y sgôr yn cario ymlaen yn ddi-dor
- Wedi i un tîm gyrraedd deg pwynt dylai’r plant ysgwyd llaw â’u gwrthwynebwyr
- Bydd angen i’r plant benderfynu sut i newid y timau drosodd er mwyn chwarae yn erbyn cynifer o dimau ag sy’n bosibl
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
- bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
Cyfleoedd i
- wella sgiliau cydsymud rhwng y dwylo a’r llygaid
- datblygu strategaethau a thactegau i fod yn fwy cyfrwys na’r gwrthwynebwyr
- adnabod yr hyn sy’n gwneud sgìl, syniad neu weithred yn llwyddiannus, a mynegi barn syml am eu perfformiad eu hunain a pherfformiad plant eraill, a defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio sut i wella
- cydweithio ag eraill a pharchu confensiynau chwarae teg
Cwestiynau
- Pam mae’n bwysig cadw’r sgôr yn gywir?
- Sut roeddech chi’n cofio o ba ochr i serfio?
- Pa sgiliau y mae angen i chi allu eu gwneud yn dda er mwyn cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn?
- Beth fyddwch chi’n ei ymarfer er mwyn eich helpu i wella?
- Pam mae’n bwysig cael traed chwim er mwyn gwneud y gweithgaredd hwn?
- Beth hoffech chi ei wneud yn well y tro nesaf?• Sut gallwch chi ennill pwyntiau yn y gêm hon?
- Ble yw’r lle gorau i roi’r bêl?
Newidiadau i’r gweithgaredd
Change the:
-
Lle
- maint y parthau – crëwch barthau mwy o faint, llai o faint neu o faint anghyfartal, rhai hir a thenau, rhai byr a llydan ac ati
-
Tasg
- y rheolau – sawl gwaith y mae’r bêl yn cael bownsio (yn enwedig ar gyfer plant sy’n cael anhawster cerdded neu blant sy’n defnyddio cadair olwyn), y dulliau o serfio, beth mae’n rhaid ei wneud ar ôl chwarae’r bêl – rhedeg allan o gwmpas côn, eistedd i lawr ac ati
-
Offer
- maint a chyflymder y peli a ddefnyddir, cyflwyno racedi, codi’r rhwydi’n uwch neu ledu’r bylchau
-
Pobl
- nifer y chwaraewyr ar bob ochr i’r rhwyd/bwlch, uno dau gwrt â’i gilydd fel bod dau dîm o ddau yn chwarae yn erbyn ei gilydd gyda dyfarnwr a/neu hyfforddwr