Cam Croesi

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Sgil
Locomotor
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Cyfarwyddiadau

Defnyddir y ‘Cam Croesi’ i newid cyfeiriad yn gyflym.

  1. Sefyll yn yr ystum ‘Parod i Fynd’ gan roi ychydig o bwysau ar belenni neu flaenau’r traed
  2. Cadw’r pengliniau wedi’u plygu a’r cluniau’n isel, trosglwyddo’r pwysau i’r ochr ac allan dros y droed chwith
  3. Camu ar draws ac o flaen gan roi’r pwysau ar y droed dde
  4. Defnyddio’r breichiau i gadw cydbwysedd
  5. Parhau i symud i’r cyfeiriad newydd naill ai trwy gamu i’r ochr neu wibio

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch…

  • nad oes gwrthrychau ar y llawr
  • nad yw’r llawr yn llithrig

Cyfleoedd i ddatblygu

  • Sgiliau cydsymud
  • Ystwythder
  • Sgiliau symud
  • Manwl gywirdeb

Os ydych chi'n gweld

Anhawster Achos tebygol Ateb
Y plentyn yn baglu Diffyg sadrwydd craidd Annog y plentyn i sefyll yn gryf
Y plentyn yn colli cydbwysedd Mae’n sefyll yn rhy syth, heb blygu’r pengliniau a gostwng y cluniau a heb symud y pwysau i’r droed gywir Arafu’r weithred a phwysleisio pob pwynt yn dda

Ydych chi'n gallu gweld?

  • y plentyn yn sefyll yn yr ystum ‘Parod i Fynd’?
  • y plentyn yn symud ar belenni neu flaenau ei draed?
  • y plentyn yn cadw ei gluniau’n isel?
  • y plentyn yn camu ar draws ac o flaen?
  • pen y plentyn yn llonydd a’i lygaid yn canolbwyntio ar yr hyn sydd o’i flaen?

  • Rhan amlaf yn anghywir

    • Cerdded trwy’r cam
    • Sefyll y tu ôl i bartner a chopïo ei symudiada
    • Rhoi’r dwylo ar y cluniau i deimlo’r pwysau’n cael ei drosglwyddo
  • Cywir ac Anghywir

    • ‘Cam Croesi’ ac yna camu i’r ochr
    • ‘Cam Croesi’ ac yna loncian
    • ‘Cam Croesi’ tuag at farciwr
  • Rhan amlaf yn gywir

    • ‘Cam Croesi’ trwy slalom o gonau
    • ‘Cam Croesi’ i symud i wahanol gyfeiriadau, ar hyd gwahanol lwybrau ac ar wahanol gyflymder
    • ‘Cam Croesi’ ac yna’r ‘Winwydden’
  • Sialens

    • ‘Cam Croesi’ i symud i wahanol gyfeiriadau ac ar wahanol gyflymder, ac yna mewn ymateb i ystod o symbyliadau
    • Defnyddio’r ‘Cam Croesi’ i gwblhau llwybr ffigur 8, siâp W, siâp M, siâp sgwâr a slalom yn yr amser cyflymaf posibl
    • Cyfuno’r ‘Cam Croesi’, ‘Camu i’r ochr’, ‘Llamu’, ‘Carlamu’ a ‘Sgipio’ mewn ymateb i ystod o symbyliadau, gan amrywio’r cyfeiriad, y llwybr a’r cyflymder

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Cam Croesi