Dringo

Wrth i ni ddatblygu

Sgil
Body Management
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Cyfarwyddiadau

Er mwyn dringo rhaid cydio a thynnu â’r breichiau a gwthio â’r coesau bob yn ail. Mae dringo’n effeithiol yn galluogi plant i archwilio’r hyn sydd o’u hamgylch a
bodloni eu chwilfrydedd

  1. Ymestyn y llaw dde i fyny a chydio’n dynn yn y bar/gris gan osod y bys bawd o gwmpas y bar/gris
  2. Camu ar ris cyntaf yr ysgol/ffrâm ddringo â’r droed dde
  3. Tynnu â’r llaw dde a gwthio â’r goes chwith
  4. Ymestyn y fraich chwith i fyny a chydio’n dynn yn y bar/gris. Ar yr un pryd, dylid camu i fyny ar y bar/gris nesaf â’r droed dde
  5. Parhau i gymryd un cam ar y tro

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch…

  • fod y plant yn ymwybodol o ddwylo plant eraill wrth ddringo
  • nad yw’r plant yn dringo’n uwch na’u taldra nhw eu hunain
  • bod nifer y plant sy’n dringo ar yr un pryd yn cael ei chyfyngu

Cyfleoedd i ddatblygu

  • Sgiliau cydsymud
  • Cydbwysedd
  • Sgiliau symud a sgiliau trafod a thrin
  • Ymwybyddiaeth ofodol
  • Cryfder rhan uchaf y corff

Maes Dysgu Datblygiad Corfforol

  • mae’n cyfrannu at yr adrannau sgiliau ‘Personol’ a ‘Chwarae anturus a chorfforol’

Os ydych chi'n gweld

Anhawster Achos tebygol Ateb
Y plentyn yn simsanu Mae’n defnyddio’r droed a’r llaw sydd ar yr un ochr o’r corff Ymarfer cropian a’r ystum ‘Milwyr yyn Cropian’
Y plentyn yn stopio rhwng pob gris Mae’n defnyddio’r droed a’r llaw sydd ar yr un ochr o’r corff Caniatáu i’r plant ddringo i fyny gwrthrychau bach yn gyntaf er mwyn magu hyder a chryfder
Y dwylo’n llithro oddi ar y cyfarpar Nid yw’n lapio’i fys bawd a’i ddwylo o gwmpas y bar/gris Archwilio gweithgareddau sy’n cynyddu’r gallu i afael a chydio’n dynn, e.e. dal dwylo, tynnu partner yn ôl ac ymlaen, tynnu gwrthrychau
Y plentyn yn swingio oddi ar y cyfarpar dringo Nid yw’n symud y breichiau a’r coesau yn y drefn gywir Ymarfer martsio, gweithrediadau stepio syml (‘Llwynogod’) a gweithgareddau cropian (‘Milwyr yn Cropian’) ar y mat, gan annog y coesau a’r breichiau i weithio yn groes i’w gilydd

Ydych chi'n gallu gweld?

  • y plentyn yn dangos gafael gadarn â’i law?
  • y plentyn yn dringo i fyny/ar ben cyfarpar ac yn ôl i lawr eto?
  • y plentyn yn symud y traed a’r dwylo bob yn ail wrth ddringo?
  • y plentyn yn dringo’n rhwydd heb oedi’n ormodol?
  • y plentyn yn dangos cydbwysedd da a rheolaeth dda o’r corff?

  • Rhan amlaf yn anghywir

    • Cydio, gwasgu a gafael mewn gwahanol wrthrychau o wahanol wead, lled a maint
    • Ymarfer yr ystum ‘Llwynogod’
    • Cropian rhwng dwy set o gonau; teithio ymlaen ac yn ôl ar wahanol gyflymder, gan osgoi
      cyffwrdd ag eraill
    • Dringo i fyny grisiau gan ddefnyddio’r traed a’r dwylo
    • Sefyll ar y ddwy droed, codi’r goes a’r fraich sydd gyferbyn â’i gilydd (gan blygu’r ben-glin) fel pe baech yn dringo rhaffau ar long. Newid y fraich a’r goes sy’n symud. Dylid gwneud hyn yn araf, sawl gwaith
    • Gosod cylchoedd ar y llawr. Rhaid i’r plant osod eu traed a’u dwylo yn y cylchoedd a dringo ar hyd y llawr
  • Cywir ac Anghywir

    • Symud dros ben plant sy’n gorwedd ar eu bol ar y llawr gan ddefnyddio gweithred ddringo. Ni ddylai’r plant gyffwrdd â’i gilydd
    • Dringo i ben mainc/grisiau gan ddefnyddio’r traed yn unig
    • Defnyddio gweithred ddringo i symud ar hyd ysgol lorweddol
    • Dringo i fyny ac i lawr meinciau/astell sydd ar rywfaint o oledd
    • Dringo ar hyd ysgol sydd ar rywfaint o oledd
    • Dringo i fyny ac i lawr ysgol sydd ar fwy a mwy o oledd, gan stepio ar bob gris
  • Rhan amlaf yn gywir

    • Dringo i fyny ac i lawr ysgol fertigol
    • Dringo mewn gwahanol amgylcheddau, ar wahanol uchder ac ar risiau anwastad ac ati
    • Dringo trwy’r grisiau, y siapiau neu’r tyllau yn y cyfarpa
    • Dringo i fyny, ar hyd ac i lawr ffrâm ddringo
    • Swingio ar hyd ysgol lorweddol ar ffrâm ddringo
  • Sialens

    • Dringo i wahanol gyfeiriadau ac ar wahanol gyflymder, ac yna mewn ymateb i ystod o symbyliadau
    • Perfformio rhai o’r Gweithgareddau Clogfeinio o’r Cardiau Dysgu yn yr Awyr Agored

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Dringo