Bwrw’r Bwced

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

  • Gofynnwch i’r plant archwilio taflu gwahanol wrthrychau naill ai at dargedau neu i mewn i dargedau o faint amrywiol, sydd wedi’u gosod bellter penodol i ffwrdd
  • Gofynnwch i’r plant ymarfer, a chofnodi beth mae pob darn o offer yn ei wneud wrth lanio
  • Gofynnwch i’r plant benderfynu pa wrthrych sydd orau i’w daflu naill ai at bob targed neu i mewn i bob targed

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • nad yw’r plant yn taflu gwrthrychau mewn modd amhriodol
  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau

Rhowch ystod o offer ym mhob ‘gardd’

Cyfleoedd i

  • adnabod priodweddau gwahanol ddarnau o offer
  • ymarfer er mwyn gwella

Cwestiynau

  • Pa wrthrych sydd hawsaf i’w daflu yn eich barn chi, a pham?
  • Pa darged yw’r anoddaf i gael y bêl i mewn iddo, a pham?
  • Pa wrthrychau sy’n rholio wrth iddynt lanio?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn adnabod priodweddau gwahanol ddarnau o offer?
  • Yn dilyn rheolau syml?
  • Yn ymarfer er mwyn gwella?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • ddewis gwrthrychau anodd eu taflu, a thargedau y mae’n anodd taflu gwrthrychau atynt
    • dosbarthu’r gwrthrychau a’r targedau i gategorïau, a chreu system sgorio sy’n adlewyrchu’r categorïau hynny
    • taflu o safle pellach i ffwrdd
    • taflu mewn amrywiaeth o ffyrdd, e.e. o lefel wahanol neu drwy wynebu cyfeiriad gwahanol, ac ati
    • anelu at dargedau anodd ar y wal neu ar lefel uwch
  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • archwilio priodweddau’r gwrthrych heb ei daflu at y targed
    • canolbwyntio ar ganol y targed
    • sefyll mor agos at y targed ag sydd ei angen er mwyn llwyddo
    • ymarfer sgiliau gan ddefnyddio’r Cardiau Sgiliau Technegol