Bwrw’r Bwced

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

  • Gofynnwch i’r plant ymarfer taflu gwrthrychau at dargedau o wahanol faint, sydd wedi’u gosod bellterau amrywiol oddi wrthynt
  • Gofynnwch i’r plant lunio’u rheolau syml eu hunain ar gyfer gêm anelu/taflu at dargedau
  • Gofynnwch i’r plant chwarae eu gêm

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • nad yw’r plant yn taflu gwrthrychau mewn modd amhriodol

Rhowch ystod o offer ym mhob ‘gardd’

Cyfleoedd i

  • gynllunio gêm â rheolau syml â chymorth
  • dilyn rheolau syml
  • gwneud penderfyniadau trwy bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision
  • dechrau awgrymu sut gellid gwella’r gêm

Cwestiynau

  • Pam penderfynoch chi roi’r targed hwn agosaf at y marciwr ar gyfer taflu?
  • Pam mae’r gwrthrych hwn yn werth mwy o bwyntiau?
  • Disgrifiwch sut cadwoch chi’r sgôr.
  • Sut penderfynoch chi pwy fyddai’n taflu gyntaf?
  • Pa reolau weithiodd yn dda yn eich barn chi, a pham?
  • Ydych chi am newid unrhyw beth yn eich gêm? Os felly, pam?
  • Sut gallwch chi wella eich sgôr y tro nesaf?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn cynllunio rheolau syml â chymorth?
  • Yn dilyn rheolau syml?
  • Yn gwneud penderfyniadau trwy bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision?
  • Yn dechrau awgrymu sut gellid gwella’r gêm?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • gynllunio rheol heb gymorth
    • adnabod ystod o welliannau, neu adnabod gwelliannau i agwedd benodol ar y gêm

    Trafodwch reolau mwy cymhleth i’r plentyn eu dilyn

    Heriwch benderfyniadau’r plentyn trwy ei helpu i lunio sefyllfaoedd ‘beth pe bai’ mwy cymhleth

  • Weithiau

    • Trafodwch â’r plentyn reolau y mae’n eu gwybod o gêmau eraill. Sut gall y plentyn gymhwyso/addasu unrhyw un o’r rheolau hynny i’w gêm?
    • Holwch y plentyn am y rheolau wrth iddo gymryd rhan
    • Helpwch y plentyn i bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob gwrthrych, targed ac ati, a helpwch e’ i wneud penderfyniad trwy roi opsiynau/dewisiadau iddo
    • Rhowch sefyllfaoedd ‘beth pe bai’ i’r plentyn i’w helpu i weld agweddau y mae angen eu gwella
    • Gofynnwch i’r plentyn ymarfer sgiliau gan ddefnyddio’r Cardiau Sgiliau Technegol