Bwrw’r Bwced

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Gofynnwch i’r plant daro gwrthrychau i mewn i gyfres o dargedau, neu atynt
  • Bydd angen iddynt greu eu rheolau eu hunain ar gyfer y gêm, ond dylai pwyntiau gael eu sgorio ar sail sgìl ac nid lwc
  • Byddant yn sgorio pwyntiau yn unigol, fel pâr neu fel grŵp

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn aros yn eu ‘gardd’
  • bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
  • bod y plant yn anelu i ffwrdd o’r ‘gerddi’ eraill (i’r gogledd, i’r de, i’r dwyrain, i’r gorllewin ac ati)
  • bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n cael anhawster cerdded neu blant sy’n defnyddio cadair olwyn fel y bo’n briodol

Cyfleoedd i

  • weithio’n gyfrifol gydag ystod o offer
  • dangos mwy o gywirdeb
  • cyfleu eu syniadau’n glir wrth gyfrannu i’r broses creu rheolau
  • adnabod yr hyn sy’n gwneud sgìl, syniad neu weithred yn llwyddiannus, a mynegi barn syml am eu perfformiad eu hunain a pherfformiad plant eraill, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio sut i wella

Cwestiynau

  • Sut gwnaethoch chi sicrhau eich bod chi a gweddill y plant yn eich gardd yn ddiogel yn ystod y gweithgaredd hwn?
    – Sut gallech chi ei wneud yn fwy diogel ond yn hwyl i’w chwarae o hyd?
  • Pa reolau roeddech chi wedi helpu i’w creu?
  • Pa reolau weithiodd yn dda yn eich barn chi?
  • A oeddech chi’n chwarae’n deg?
  • Sut gallech chi sicrhau bod pawb yn cadw at y rheolau wrth chwarae?
  • Sut roeddech chi wedi sicrhau eich bod yn cadw’r sgôr yn gywir?
  • Gyda pha weithred/offer roeddech chi’n fwyaf llwyddiannus ac yn lleiaf llwyddiannus, a pham?
  • Sut roeddech chi wedi gwella eich perfformiad eich hun neu berfformiad rhywun arall?
    – Beth arall allech chi ei wneud i wella eich perfformiad eich hun neu berfformiad rhywun arall?
  • Sut gallai camera fideo eich helpu?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Newidiwch y canlynol:

  • Lle

    • maint y lle chwarae
    • y drefn e.e. cystadleuaeth OXO
  • Tasg

    • y llaw a ddefnyddir i daflu
    • y modd y mae’r gwrthrych yn cyrraedd y targed/gôl, e.e. cicio, taflu, tsipio, serfio, bowlio ac ati
    • y rheolau e.e. ychwanegu llwybr slalom cyn anelu, newid sawl tro y bydd pawb yn ei gael, newid y system bwyntiau ac ati
  • Offer

    • maint y targed – ei wneud yn fwy, yn llai, ei symud yn nes, ei symud yn bellach i ffwrdd, ei osod yn uchel neu’n isel, rhoi gwrthrych o’i flaen ac ati
    • y targed – ei wneud yn darged sy’n gwyro
    • y dull o daflu, er enghraifft taflu o sbot woblo
  • Pobl

    • nifer y bobl ym mhob tîm
    • yr arweinydd
    • y symbyliadau a roddir – rhoi symbyliadau llafar i blant â nam ar y golwg