Fi atat Ti ataf Fi

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:

  • Gweithio fel pâr i anfon a chael pêl dros y bwlch/rhwyd, a phob plentyn yn aros yn ei ‘ochr/hanner’ ef o’r ‘ardd’
  • Gweithio fel pâr. Mae ‘A’ yn anfon pêl yn erbyn wal er mwyn i ‘B’ ei chael. Mae ‘B’ yn anfon y bêl yn ôl yn erbyn y wal, ac mae ‘A’ yn ei chael
  • Cydweithio i ddechrau, ac yna cystadlu yn erbyn ei gilydd i sgorio pwyntiau. Dylai’r plant benderfynu sut y caiff pwyntiau eu hennill, pwy sy’n dechrau, sut mae’n rhaid anfon a chael y gwrthrych, sawl gwaith y caiff y gwrthrych fownsio (os o gwbl), faint o bwyntiau sydd eu hangen arnynt i ennill, neu a fyddant yn cystadlu yn erbyn y cloc neu’n ceisio cwblhau ralïau o hyd penodol, ac ati

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn gweithio mewn ‘gerddi’ a bod digonedd o le rhwng pob ‘gardd’

Cyfleoedd i

  • ddatblygu sgiliau â rheolaeth a sgiliau cydsymud sy’n gwella
  • gweithio’n ddiogel gydag eraill wrth ddefnyddio offer
  • siarad am yr hyn y maent wedi’i wneud
  • gwneud awgrymiadau syml ynghylch sut i wella perfformiad

Cwestiynau

  • Pa mor hawdd yw hi i chwarae gan ddefnyddio balŵn?
  • Pa reolau y gwnaethoch chi eu llunio ynghylch pwy sy’n dechrau â’r bêl?
  • Sut gwnaethoch chi benderfynu ar faint eich bwlch/rhwyd neu’r ‘ardd’?
  • Beth sydd angen i chi ei wneud i fod yn fwy cyfrwys na’ch partner?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn datblygu sgiliau â rheolaeth a sgiliaucydsymud sy’n gwella?
  • Yn gweithio’n ddiogel gydag eraill wrth ddefnyddio offer?
  • Yn siarad am yr hyn y mae wedi’i wneud?
  • Yn gwneud awgrymiadau syml ynghylch sut i wella perfformiad?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • chwarae yn yr un ardal wrth ddefnyddio wal, h.y. fel pe bai’n chwarae sboncen
    • defnyddio batiau ag arwynebedd llai
    • chwarae â bwlch mawr neu rwyd uchel
    • amddiffyn ardal fawr
    • gwylio perfformiad rhywun arall a chael rhywun arall i wylio’i berfformiad ef, a dweud beth sy’n dda amdano a beth allai fod yn well, dechrau defnyddio geiriau allweddol. Defnyddio’r ddealltwriaeth hon i gynllunio sut i wella’i sgiliau
  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • ymarfer pob agwedd cyn chwarae gêm
    • cydweithio â phartner nes ei fod yn ennill mwy o hyder
    • chwarae â bwlch bach neu rwyd isel
    • amddiffyn ‘gardd’ fach
    • cyfeirio at ‘waliau geiriau’/geiriau allweddol, a thrafod â phlentyn mwy medrus neu ymarferwr yn gyntaf cyn rhoi adborth