Fi atat Ti ataf Fi
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant yn ddau dîm o ddau
- Crëwch ardal chwarae sy’n cynnwys dau barth a gaiff eu rhannu gan rwyd isel neu fwlch/ardal ‘waharddedig’ (po fwyaf yw’r bwlch, yr uchaf fydd y rhwyd ddychmygol)
- Bydd angen i un tîm fod yn y parth ar un ochr i’r rhwyd neu’r bwlch, a bydd angen i’r tîm arall fod gyferbyn â nhw yn y parth arall
- Bydd angen i’r plant anfon y bêl dros y rhwyd gan geisio cynnal y rali gyhyd ag sy’n bosibl
- Bydd angen i’r plant benderfynu ar y rheolau, sut i anfon a derbyn y bêl, sawl gwaith y mae’r bêl yn cael bownsio, a allwch chi anfon y bêl at rywun yn yr un tîm â chi, pwy sy’n dechrau’r rali a sut, a allwch chi chwarae’r bêl o’r tu allan i’r parth ac ati
- Gofynnwch i’r ddau dîm ddechrau trwy gydweithio ac yna mynd ati i gystadlu yn erbyn ei gilydd
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
- bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
- bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n cael anhawster cerdded neu blant sy’n defnyddio cadair olwyn fel y bo’n briodol
Cyfleoedd i
- gydweithio i ddatrys problemau wrth weithio gydag eraill
- gwella sgiliau cydsymud rhwng y dwylo a’r llygaid
- datblygu strategaethau a thactegau i fod yn fwy cyfrwys na’r gwrthwynebwyr
- cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithrediadau eu hunain a dechrau deall y risgiau cysylltiedig
- cydweithio ag eraill a pharchu confensiynau chwarae teg
Cwestiynau
- Pa sgiliau y mae angen i chi allu eu gwneud yn dda er mwyn cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn?
– Beth fyddwch chi’n ei ymarfer er mwyn eich helpu i wella? - Pam mae traed chwim yn bwysig yn y gêm hon?
- Pa mor dda roeddech chi a’ch partner yn gweithio gyda’ch gilydd?
– Beth hoffech chi ei wneud yn well y tro nesaf? - Pam mae’n bwysig defnyddio eich llaw chwith a’ch llaw dde?
Newidiadau i’r gweithgaredd
Change the:
-
Lle
- maint y parthau – crëwch barthau mwy o faint, llai o faint neu o faint anghyfartal, rhai hir a thenau, rhai byr a llydan ac ati
-
Tasg
- y rheolau – sawl gwaith y mae’r bêl yn cael bownsio, sawl gwaith gall pob tîm gyffwrdd â’r bêl cyn ei phasio i’r tîm arall, y dulliau o serfio, y dulliau o symud gyda’r bêl neu hebddi, beth mae’n rhaid i chi ei wneud ar ôl i chi chwarae’r bêl – allan o gwmpas côn, eistedd i lawr, archwilio gwahanol ffyrdd o gael y bêl dros y rhwyd/bwlch ac ati
- y rheolau ar gyfer plant sy’n defnyddio cadair olwyn a chwaraewyr sy’n cael anhawster symud, er enghraifft caniatáu i’r bêl fownsio ddwywaith neu gynifer o weithiau ag y mae angen
-
Offer
- maint y peli a ddefnyddir, gan gynnwys peli â chlychau, cyflwyno racedi, codi’r rhwydi’n uwch neu ledu’r bylchau
-
Pobl
- nifer y chwaraewyr ar bob ochr i’r rhwyd/bwlch, uno dau gwrt â’i gilydd i chwarae pedwar yn erbyn pedwar neu dri yn erbyn pedwar gyda swyddog/hyfforddwr
- y symbyliadau a roddir – rhoi symbyliadau llafar i blant â nam ar y golwg