Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:
- Anfon a chasglu pêl, a phob plentyn yn aros yn ei ‘ochr/hanner’ ef o’r ‘ardd’
- Casglu pêl sydd wedi ei rholio neu’i thaflu dan ysgwydd at wal
- Gwthio/llywio gwrthrych yn ôl ac ymlaen at ei gilydd
- Cadw gwrthrych yn yr ‘ardd’. Dylent geisio ennill y sgôr uchaf
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn gweithio mewn ‘gerddi’
Cyfleoedd i
- ddatblygu rheolaeth gynyddol ar symudiadau mawr y corff
- anfon a chael gwrthrych
- adnabod a defnyddio gwahanol ddarnau o offer wrth chwarae gydag eraill
Cwestiynau
- Pa bêl sydd hawsaf i’w rheoli?
- Pa bêl rydych chi’n mwynhau chwarae â hi fwyaf?
- Beth sy’n digwydd wrth i’r bêl adlamu/bownsio oddi ar y wal?
- Ble mae angen i chi fod i gasglu/codi’r bêl yn gyflym?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn datblygu rheolaeth gynyddol ar symudiadau mawr y corff?
- Yn anfon ac yn cael gwrthrych?
- Yn adnabod ac yn defnyddio gwahanol ddarnau o offer wrth chwarae gydag eraill?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- archwilio anfon a chael mewn ystumiau eraill lle gall gadw cydbwysedd
- chwarae mewn ardal lai o faint
- llunio rheolau ynghylch sut a ble mae’n rhaid rholio/taflu’r bêl cyn y gellir ei chodi
- datblygu system sgorio
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- ymarfer pob agwedd cyn chwarae gêm
- trafod pa wrthrychau y gall eu rholio/taflu/gwthio, cyn iddo ddechrau
- rhedeg a chodi/casglu gwrthrych llonydd,cyn ceisio casglu pêl sy’n symud
- chwarae mewn ardal fawr
- rholio pêl at blentyn mwy medrus neu ymarferwr sy’n eistedd â’i goesau ar led