Patrymau a Llwybrau

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

  • Chwaraewch gyfeiliant penodol i symbylu’r plant i ymateb drwy symudiadau

Anogwch y plant i:

  • Ddefnyddio sgiliau anos yn eu dawnsiau, e.e. sgipio, llamu, ac ati
  • Ymarfer eu dawnsiau
  • Archwilio hwyliau a theimladau gan ddefnyddio symudiadau syml
  • Archwilio creu cymalau hwy, mwy diddorol sydd â safleoedd dechrau a gorffen pendant ac sy’n cyfleu agwedd benodol ar y stori
  • Archwilio newidiadau o ran dynameg, e.e. cryf/gwan, cyflym/araf, llyfn/herciog, mawr/bach, ac ati
  • Defnyddio’r Dull Bwrdd Stori i uno cymalau byr o symudiadau â’i gilydd i greu dawns sydd â dechrau, canol a diwedd
  • Archwilio ffordd o orffen y ddawns, e.e. yn sownd ar y creigiau, wedi eu chwythu allan i’r môr, yn ôl â’u traed ar dir sych, ac ati

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn gweithio yn eu ‘swigod’

Cyfleoedd i

  • fynegi syniadau trwy ystod o symudiadau
  • cysylltu cyfres o weithrediadau â’i gilydd â pheth rhwyddineb i greu cymal dawns sy’n cynnwys eiliadau o lonyddwch ac ystum i wella mynegiant
  • ailadrodd cymalau

Cwestiynau

  • Pa weithrediadau dawns sylfaenol sydd fwyaf addas i’r rhan hon o’r ddawns yn eich barn chi?
  • Sut gallwch chi deithio a gwneud ystumiau ar yr un pryd?
  • Sut gallwch chi ddefnyddio ystum a llonyddwch i wella eich mynegiant?
  • Sut gallwch chi newid y cymal, e.e. drwy ei ailadrodd ar gyflymder gwahanol?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn mynegi syniadau trwy ystod o symudiadau?
  • Yn cysylltu cyfres o weithrediadau â’i gilydd â phethrhwyddineb i greu cymal dawns sy’n cynnwys eiliadau olonyddwch ac ystum i wella mynegiant?
  • Yn ailadrodd cymalau?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • wneud pob adran yn hwy neu’n fwy diddorol, trwy ychwanegu mwy o weithrediadau neu gynnwys newidiadau o ran cyfeiriad, lefel, cyflymder, llwybr, ac ati
    • ailadrodd pob adran â safleoedd dechrau a gorffen clir
    • gwrando ar y cyfeiliant ac ymateb yn briodol iddo
    • dawnsio gyda phartner gan ddilyn yr arweinydd (y ddau blentyn fel y barcud, neu un plentyn fel y barcud ac un plentyn fel Tom, ac ati)
    • trafod ansawdd ei symudiadau, e.e. sut gall ddangos y gwahaniaeth rhwng hedfan a llamu?
  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • ddefnyddio lluniau o’r stori i greu dilyniant neu fwrdd stori i’w helpu i greu cymal/motiff/dilyniant
    • trafod pa syniadau/geiriau/lluniau o’r stori y byddai’n hoffi eu cynnwys fel ystum neu eiliadau o lonyddwch, a gweithio ar y rhain a datblygu gweithrediadau teithio i’w cysylltu nhw â’i gilydd
    • datblygu ‘ciwb symudiadau’ fel ei fod yn dewis amrywiaeth o wahanol eiriau y mae’n eu hoffi. Yna, bydd y plentyn yn defnyddio’r ciwb i’w helpu i gyflwyno’i weithrediadau ar ffurf dilyniant
    • gwylio dawnsiau plant eraill. Gofynnwch iddo ddewis y symudiadau y mae’n eu hoffi ac y byddai’n gallu eu cynnwys yn ei gymal ei hun
    • trafod pa eiriau y byddai’n hoffi eu mynegi/cyfleu, a pha weithrediadau y gallai eu defnyddio i ddangos y geiriau hynny
    • dweud y gair wrtho’i hun wrth symud, yn Gymraeg a Saesneg