Patrymau a Llwybrau

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Rhowch wyth plentyn ym mhob ‘gardd’
  • Bydd angen i’r plant weithio gyda’i gilydd i greu cyfres o batrymau a llwybrau ar y llawr y bydd yn rhaid iddynt eu dilyn
  • Caiff y patrymau/llwybrau eu creu gan ddefnyddio marcwyr dros dro, sialc, conau neu raffau sgipio, ysgolion ac ati
  • Mae patrymau’n berthnasol i batrymau traed penodol, er enghraifft 2 i mewn 2 allan. Mae llwybrau yn drywydd y mae’n rhaid ei ddilyn ni waeth pa batrymau traed a ddefnyddir, e.e. ffigur 8, siâp y llythyren ‘W’, cwrs slalom, llinell grom a llinell syth ac ati
  • Y nod yw cwblhau’r cwrs cyn gynted ag sy’n bosibl ac mor gywir ag sy’n bosibl

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn aros yn eu ‘gardd’
  • bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
  • bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n cael anhawster cerdded neu blant sy’n defnyddio cadair olwyn fel y bo’n briodol
  • bod marcwyr llachar yn cael eu defnyddio ar gyfer plant â nam ar y golwg

Cyfleoedd i

  • ddatblygu ‘traed chwim’
  • datblygu ystwythder, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
  • datblygu cyflymder a stamina
  • dangos gwell rheolaeth a sgiliau cydsymud ar draws ystod o weithgareddau
  • cynnal gweithgarwch am gyfnodau priodol
  • disgrifio sut y maent yn teimlo wrth wneud gwahanol weithgareddau a dangos rhywfaint o ddealltwriaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol i iechyd, ffitrwydd a lles

Cwestiynau

  • Am beth roeddech chi’n meddwl i’ch helpu i wneud y gweithgaredd hwn yn gyflym?
    – Beth arall allech chi feddwl amdano i’ch helpu y tro nesaf?
  • Pa adran oedd yr un anoddaf?
  • Pa sgiliau y byddwch chi’n eu hymarfer er mwyn eich helpu i fynd yn gynt y tro nesaf?
  • Pam mae gweithgareddau fel rhain yn bwysig i’ch iechyd?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Change the:

  • Lle

    • y llwybrau – eu gwneud yn haws/mwy cymhleth, yn fyrrach, yn hwy, yn fwy, yn llai ac ati
  • Tasg

    • y patrymau – eu gwneud yn haws/mwy cymhleth, yn fyrrach, yn hwy
    • y dull o deithio, e.e. am yn ôl, i’r ochr ac ati, neu ychwanegu pêl i ddriblo â’r dwylo, driblo â’r traed neu ddriblo pêl a ffon ac ati. Defnyddiwch farcwyr/conau fel arwyddion gweledol i arafu, cyflymu, symud am yn ôl, driblo ac ati
    • y gweithgareddau ar hyd y cwrs, fel bod yn rhaid i’r plant wneud pethau eraill megis ystumiau cadw cydbwysedd, sgorio goliau, gwneud symiau mathemateg, sillafu geiriau, cwblhau posau ac ati. Meddyliwch am y ‘Biathlon’ – sgïo’n gyflym ar hyd cwrs traws gwlad hir ac yna gwneud gweithgaredd lle mae’n rhaid anelu/canolbwyntio
  • Offer

    • yr offer a ddefnyddir
  • Pobl

    • y dull o gwblhau’r cwrs, e.e. gweithio mewn parau, un y tu ôl i’r llall, neu adlewyrchu. Ystyriwch ddefnyddio cerddoriaeth
    • yr arweinydd – cymryd eu tro i ddysgu neu hyfforddi rhywun arall a’i helpu i wella