Rhôl i’r Ochr

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Dechreuwch mewn ystum Cath Flin, codwch un goes allan i’r ochr fel ei bod yn syth â’r droed yn cyffwrdd â’r llawr. Codwch
eich breichiau oddi ar y llawr hyd nes eu bod allan i’r ochr ar uchder yr ysgwyddau a sythwch eich corff am i fyny gan gydbwyso ar ddau bwynt – eich troed a’r goes sydd wedi’i phlygu

• Gostyngwch eich ysgwyddau i’r llawr gan ddefnyddio’r fraich ar yr un ochr i’r corff â’r goes sydd wedi’i phlygu a’i gwthio ar hyd y llawr o flaen eich corff gan ei chadw’n weddol agos at eich coesau. Roeddech chi’n defnyddio’ch braich yn yr un modd i berfformio Rhôl Cath

• Ceisiwch rolio’n llyfn ar draws eich ysgwyddau â’ch coesau ar led (siâp seren) a gorffennwch yn yr un safle ag y dechreuoch ond bod eich safle newydd yn adlewyrchiad o’ch safle gwreiddiol

side_roll image

Cwestiynau

• Pryd mae angen i chi blygu a sythu’ch coesau?

• Pa siâp mae angen i chi ei wneud â rhan uchaf eich cefn er mwyn rholio’n llyfn?

Cyflyru’r Corff

• Sgiliau cydsymud*

• Rheolaeth*

• Osgo

• Cryfder

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ewch ati i ymarfer Rhôl Cath

    • Ewch ati i ymarfer gorffen mewn ystum Cath Flin neu ar eich pengliniau

  • Herio

    • Dechreuwch mewn ystum Rhagwth Ochr

    • Gorffennwch mewn ystum Rhagwth Ochr

    • Perfformiwch Rôl i’r Ochr ar gyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Rhôl i’r Ochr