Siglo, Rholio a Sefyll

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Eisteddwch mewn siâp Twc

• Cadwch gefn Cath Flin trwy gydol y weithred

• Rholiwch yn ôl ar eich ysgwyddau, a chydbwyswch ar eich ysgwyddau am eiliad

• Rholiwch o’ch ysgwyddau yn ôl i siâp Twc

• Wrth i chi rolio ymlaen, arhoswch mewn siâp twc wrth i’ch traed gyffwrdd â’r llawr, ac estynnwch ymlaen â’ch breichiau yn gyflym er mwyn sefyll i fyny

Cwestiynau

• A yw’ch pengliniau gyda’i gilydd trwy gydol yr amser?

• A oes gennych gefn Cath Flin trwy gydol y weithred?

• Pryd mae angen i chi estyn ymlaen â’ch breichiau?

Cyflyru’r Corff

• Sadrwydd craidd

• Sgiliau cydsymud*

• Ystwythder

• Osgo

• Cryfder*

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ewch ati i ymarfer Siglo a Rholio

    • Gafaelwch mewn pêl fawr trwy gydol y weithred a cheisiwch ei thaflu ymlaen wrth i chi sefyll

    • Gofynnwch i bartner sefyll o’ch blaen a gafael yn eich dwylo wrth i chi rolio ymlaen i’ch helpu i sefyll

  • Herio

    • Newidiwch y ffordd o orffen y weithred hon trwy amrywio safle’r coesau

    • Perfformiwch Siglo, Rholio a Sefyll ar gyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Siglo, Rholio a Sefyll