Siglo a Rholio (RhY)

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Eisteddwch mewn siâp Twc â’ch dwylo ar eich pengliniau a’ch penelinoedd i mewn
• Cadwch gefn Cath Flin trwy gydol y weithred
• Siglwch yn ôl ar eich ysgwyddau
• Siglwch o’ch ysgwyddau yn ôl i siâp Twc – gan gadw’ch dwylo ar eich pengliniau a’ch penelinoedd i mewn

Cwestiynau

• A yw’ch pengliniau gyda’i gilydd trwy gydol yr amser?
• A oes gennych gefn Cath Flin trwy gydol y weithred?
• A allwch deimlo pob asgwrn yn eich cefn yn cyffwrdd â’r llawr yn ei dro?

Cyflyru’r Corff

• Sadrwydd craidd*

• Osgo*

• Ystwythder

• Cryfder

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ystum Cath Flin
    • Siâp Twc

  • Herio

    • Dechreuwch â’ch breichiau wedi’u hymestyn allan o’ch blaen a siglwch am yn ôl, gan gadw’r siâp Twc a’ch breichiau wedi’u hymestyn o’ch blaen trwy gydol y weithred
    • Rhowch gynnig ar amrywio safle’r coesau – ceisiwch wneud siâp cymesur / anghymesur
    • Ceisiwch berfformio’r weithred hon gyda phartner – gan amrywio’r cyflymder a’r trefniannau gofodol
    • Perfformiwch Siglo a Rholio ar gyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Siglo a Rholio