Dawns y Ddraig
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant fel bod wyth plentyn ym mhob ‘gardd’
- Gofynnwch i’r plant greu fersiwn Cymreig o’r ‘Haca’. Trafodwch yr ‘Haca’ a dawnsio gwerin/dawns y glocsen â’r plant
- Gofynnwch i’r plant weithio mewn parau a chymryd eu tro i greu gweithred neu gyfres fer o weithrediadau gan ddefnyddio unrhyw sgiliau neu symudiadau y maent yn dymuno. Bydd y pâr nesaf yn ailadrodd y weithred gyntaf ac yn ychwanegu ei weithred ei hun ac ati
- Gofynnwch i’r plant ddangos eu Dawns y Ddraig i grŵp arall ac ymuno â’i gilydd gan ddewis eu gweithrediadau trawiadol i greu cyfres hwy o weithrediadau
- Gallai’r plant ystyried cyfansoddi llafargan i’w pherfformio gyda’u dawns