O Smotyn i Smotyn
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Beth am chwarae?
- Trefnwch y plant yn un tîm o bedwar ym mhob ‘gardd’
- Gosodwch gwrs sy’n mynd o’r smotyn cyntaf i’r smotyn olaf
- Gofynnwch i’r plant gwblhau’r daith gan symud o un ‘smotyn’ i’r llall heb gwympo oddi ar yr offer/cyffwrdd â’r llawr
- Rhaid i’r tîm fynd â gwrthrych gwerthfawr gyda nhw y mae’n rhaid i bob aelod o’r tîm gyffwrdd ag ef ar ryw adeg. Gallai’r gwrthrych hwn fod yn bwced o ddŵr, yn ‘eryr wedi’i glwyfo’ neu’n wy estron (ffit-bêl) ac ati
- Os bydd y plant yn cwympo/cyffwrdd â’r llawr neu’n gollwng y gwrthrych gwerthfawr, rhaid i bob aelod o’r tîm ddechrau eto
- Mae gan y tîm un ‘smotyn’ ychwanegol y gallant fynd ag ef gyda nhw i’w ddefnyddio os oes angen ar hyd y cwrs