Tipio a Rhedeg

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Trefnwch y plant yn ddau dîm o bedwar mewn ‘gardd’ fawr
  • Bydd un tîm yn batio a’r llall yn maesu
  • Bydd y tîm sy’n batio yn taro’r bêl i mewn i’r ‘ardd’ ac yna’n symud allan o gwmpas côn sydd wedi’i osod tua 5 metr i ffwrdd. Wrth i’r batiwr ddechrau symud, bydd y batwyr eraill sy’n aros pellter diogel i ffwrdd yn ymuno yn y gweithgaredd ac yn dilyn y batiwr o gwmpas y côn ac yn ôl i’r safle batio
  • Bydd y maeswyr yn casglu’r bêl ac yn ei phasio’n gyflym o’r naill i’r llall fel bod pob maeswr yn cyffwrdd â’r bêl o leiaf unwaith. Bydd y maeswyr yn sgorio 5 pwynt os gallant ddal/trapio’r bêl yn syth wrth y batiwr
  • Bydd y batwyr yn parhau i symud nes i’r maeswyr ddweud wrthynt am aros. Bydd y batwyr yn sgorio un pwynt bob tro y bydd y batiwr diwethaf yn rhedeg heibio i’r côn. Os caiff y bêl ei tharo allan o’r ardd, ni ellir sgorio unrhyw rediadau
  • Bydd angen newid y batiwr ar ôl pob ergyd. Ar ôl i bob batiwr gael un ergyd yr un bydd y batwyr yn newid i fod yn faeswyr, a’r maeswyr yn newid i fod yn fatwyr